Mwy o Newyddion
Rhaid rhoi terfyn ar hawlio tir hen ffasiwn a diegwyddor
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi beirniadau Ystadau’r Goron am y ffordd y maen nhw wedi ymdrin â hawliau tir o dan dai pobl, gan ddatgan y dylai cyfrifoldeb dros Ystadau’r Goron yng Nghymru gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
Mae’r Gofrestrfa Tir wedi anfon lythyrau allan yn dweud wrth bobl ym Mhwllheli a Morfa Nefyn fod Ystadau’r Goron yn cofrestru eu hawliau dros fwynau o dan eu cartrefi.
Dywedodd Liz Saville Roberts: “Yn y dyddiau diwethaf mae nifer o bobl yn ardal Pwllheli a Morfa Nefyn wedi cael llythyrau swyddogol gan y Gofrestfa Tir yn dweud wrth deuluoedd fod y Ystâd y Goron yn cofrestru ei hawl i fwynau dan eu cartrefi.
“Dydi’r mater yma wedi gwneud dim ond achosi pryder ac ansicrwydd i fy etholwyr.
“Mae’n ymddangos i mi fod y broses i gyd wedi ei llwytho yn erbyn pobl gyffredin ac yn ddim byd ond smalio gwrando. Mae’n amlwg fod hyn yn annerbyniol.
“Yn fy marn i mi ddylai cyfrifoldeb dros Ystadau’r Goron yng Nghymru gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru er mwyn ei wneud yn atebol yn ddemocrataidd.
“Ar wahân i hyn, mae mynnu hawliau i fwynau yn mynd a ni yn ôl i’r ddeunawfed ganrif ac nid yn adlewyrchu y G21. Does dim lle i’r fath yma o agwedd yn ein cymdeithas heddiw.
“Polisi Plaid Cymru yw y dylai rheolaeth dros Ystâd y Goron gael ei ddatganoli i Gymru. Byddai Llywodraeth o Gymru yn sicr wedi cymryd agwedd wahanol, un sy’n ystyriol o’n hanes o fynd i’r afael â landlordiaeth diegwyddorol a hawliau sylfaenol pobl Cymru.”