Mwy o Newyddion
Y Lolfa'n amddiffyn rhoi sticeri draig goch ar drwyddedau gyrru
Nid yw gosod sticeri Draig Goch ar drwyddedau gyrru yn torri rheolau’r DVLA yn ôl Gwasg Y Lolfa.
Cynhyrchwyd y sticeri yn brotest yn erbyn penderfyniad llywodraeth y DU i osod baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd.
Er bod nifer o yrwyr Cymru wedi ymgyrchu yn erbyn y syniad, daeth y trwyddedau newydd i fodolaeth ar 6 Gorffennaf 2015.
Mae'r DVLA wedi rhybuddio y gall yrwyr wynebu dirwy o £20 os ydyn nhw’n “anharddu” eu trwydded mewn unrhyw fodd.
Meddai Pennaeth Marchnata Y Lolfa, Fflur Arwel: "Nid yw ymateb yr ATGCh yn dal dŵr.
"Nid yw’r sticeri yn newid neu yn amharu ar unrhyw wybodaeth ar y drwydded – dim ond gorchuddio Jac yr Undeb.
"Mae ffyrdd o brofi os yw’r drwydded yn un ddilys dal yn bosibl hyd yn oed gyda’r sticeri.
"Mae’r sticeri yn ysgafn ac ni wnawn nhw ddifrodi neu anharddu’r drwydded mewn unrhyw ffordd.
"Rydym wedi derbyn ymateb cadarnhaol iawn i’n hymgyrch ers ei lansio.
Yn amlwg mae pobl yn teimlo’n angerddol iawn am hyn.
"Nid ydyn nhw’n teimlo fod fflag yr Undeb yn eu cynrychioli nhw nac ychwaith yn teimlo bod eu cenedligrwydd Cymreig yn cael ei barchu.
"Am hyn, byddwn yn parhau i werthu a chynhyrchu sticeri’r Ddraig Goch a rhoi’r cyfle i bobl ddangos eu bod nhw’n falch o fod yn Gymry."
Pris pecyn o chwe sticer draig goch yw £2 ac maent ar werth mewn siopau llyfrau ac ar wefan Y Lolfa www.ylolfa.com.