Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Ionawr 2016

Tri-chwarter gyrrwyr Cymru o blaid terfyn is ar gyfer yfed a gyrru

Wrth i ymdrech newydd fynd rhagddi i ddod â’r terfyn yfed a gyrru yng Nghymru a Lloegr i lawr i lefel yr Alban a nifer o wledydd eraill Ewrop, mae ffigurau gan Alcohol Concern Cymru yn dangos bod ychydig mwy na thri-chwarter gyrrwyr Cymru o blaid rheolau llymach.

Gofynnodd yr elusen i 500 o yrrwyr Cymru am eu barn nhw ar leihau faint o alcohol yn y gwaed sy’n gyfreithlon ar gyfer gyrru, o 80mg ymhob 100ml o waed i 50mg – fel y digwyddodd yn yr Alban yn 2014. Dangosodd yr arolwg fod 76% o fodurwyr Cymru yn cefnogi terfyn is, gan gynnwys 62% sy’n cefnogi hynny “yn gryf”. Er bod rhai pobl heb benderfynu eto, cwta 6% sy’n gwrthwynebu cyflwyno’r mwyafswm 50mg yng Nghymru.

Mae’r ystadegau newydd hyn yn cael eu cyhoeddi ar yr un diwrnod ag y mae mesur preifat gan yr Arglwydd Brooke o’r Blaid Lafur yn cael ei ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi. Safoni’r terfyn ar gyfer alcohol yn y gwaed ar draws Prydain Fawr yw nod y mesur, a hynny ar lefel is yr Alban.

Dywedodd Andrew Misell, Cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru: “Pan holon ni yrrwyr Cymru am hyn yn ôl yn 2013, dim ond 51% oedd o blaid tynhau’r rheol yma. Mae’n debyg bod y ddeddf newydd yn yr Alban wedi newid agwedd llawer un. Mae’r Albanwyr eisoes yn elwa o honno am fod llai o bobl wedi’u cael wrth y llyw dan ddylanwad y ddiod yn y naw mis wedi’r terfyn newydd, o gymharu â’r un misoedd yn y flwyddyn flaenorol.”

“Yn bwysicach na hynny, efallai, mae esiampl yr Alban yn perswadio mwy a mwy ohonon ni nad yw ceir ac alcohol yn cyd-fynd o gwbl ac y dylai deddf gwlad bwysleisio’r un neges. At ei gilydd, mae’n gwneud mesur yr Arglwydd Brooke yn un amserol iawn.”

Dywedodd Simon Richardson MBE, y seiclydd o Borthcawl a enillodd ddwy fedal aur baralympaidd, cyn cael ei daro gan yrrwr meddw yn 2011: “Yn 2011 buodd gyrrwr meddw bron â’m lladd i; doedd 240 o bobl eraill ddim mor ‘lwcus’.

"Rwy’n dal yn fyw, ond mae fy iechyd wedi’i ddinistrio ynghyd â ’mreuddwydion am gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012.

"Fel enillydd dwy fedal aur Baralympaidd a deiliad record byd am seiclo, dylwn innau fod wedi bod yn rhan o hanes llwyddiannus 2012.

"Dyw fy mhoen beunyddiol i ddim i’w weld yn yr ystadegau blynyddol am farwolaethau trwy fedd-dod ar yr heol – cyfanswm sy’n gwrthod cwympo ers 2010.

“Heddiw, mae cyfle i aelodau Tŷ’r Arglwyddi bleidleisio dros dynhau’r ddeddf ar yfed a gyrru. Ar 80mg o alcohol ymhob 100ml o waed, mae’r terfyn sydd ar hyn o bryd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn uwch na phob man arall yn Ewrop, ar wahân i Malta.

"Bydd lleihau’r terfyn i 50mg ymhob 100ml – gan ddod â ni i’r un lefel â’r rhan fwyaf o’n cymdogion, gan gynnwys yr Alban – yn achub cannoed o fywydau a chadw miloedd rhagor rhag cael eu chwalu.

“Mae’r wyddoniaeth yn glir. Ar 50mg mae gyrrwyr ddwywaith mwy tebygol o fod mewn gwrthrawiad na’r rhai heb alcohol yn eu gwaed. Ar 80mg, mae’r ffigur yma’n codi i bedair gwaith mwy tebygol.

"Bydd terfyn yfed a gyrru is yn danfon y neges iawn i bob gyrrwr. Rydyn ni’n methu aros rhagor.”

Rhannu |