Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Ionawr 2016

Cyhoeddi lein-yp terfynol Gwobrau’r Selar

Mae’r Selar wedi cyhoeddi lein-yp terfynol noson fawreddog Gwobrau’r Selar, fydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ar 20 Chwefror.

A bydd gweld enwau’r 10 artist sy’n perfformio gyda’i gilydd ar boster gig yn siŵr o ddod â dŵr i ddannedd unrhyw un sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Y pump perfformiwr diweddaraf i’w henwi ydy:

Yws Gwynedd: Efallai artist mwyaf poblogaidd y sin Gymraeg a gipiodd dair Gwobr Selar llynedd a sydd wedi cael blwyddyn ryfeddol arall yn llenwi gigs ledled Cymru.

?* Rogue Jones: Rhyddhaodd y ddeuawd arbrofol, ac ychydig bach yn wallgof, eu halbwm cyntaf VU ym mis Tachwedd 2015 gan gyrraedd dwy o restrau hir Gwobrau’r Selar eleni  (Record Hir Orau a Gwaith Celf Gorau)

?* Cpt Smith: Band ifanc gwych o’r de Orllewin a ffrwydrodd i’r golwg yn y gwanwyn gan ryddhau sengl wych, ‘Resbiradaeth’, fel rhan o gynllun Senglau’r Selar. Cyhoeddwyd nos Fercher (27 Ionawr) eu bod nhw ar restr fer y categori ‘Band neu Artist Newydd Gorau’.

?* Calfari: Mae’r grŵp roc o Fôn gyda’i tiwns bachog wedi cael blwyddyn gofiadwy, gan ryddhau eu EP cyntaf ‘Nôl ac Ymlaen’ ym mis Mai.

Ysgol Sul: Enillwyr gwobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r llynedd, mae’r triawd indî low-fi o Landeilio wedi adeiladu ar eu llwyddiant eleni gan ryddhau eu EP cyntaf, ‘Huno’ ym mis Rhagfyr.

Cyhoeddwyd eisoes ddechrau’r wythnos bod Sŵnami, Band Pres Llareggub, Terfysg, HMS Morris ac Aled Rheon hefyd yn perfformio ar y noson fawr yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Cyhoeddwyd hefyd y bydd Dyl Mei yn cyflwyno’r noson am y bedwaredd flwyddyn yn ol, a bydd Gethin Evans yn ail-ymuno ag efo wedi blwyddyn o hiatus llynedd.

Adlewyrchu llwyddiant

Nod lein-yp y Gwobrau ydy adlewyrchu llwyddiant a bywiogrwydd y flwyddyn sydd wedi bod yn ôl golygydd cylchgrawn Y Selar.

“Mae’n bwysig iawn i ni fod lein-yp y digwyddiad yn iawn, ac yn adlewyrchu llwyddiant y flwyddyn sydd wedi bod” meddai Gwilym Dwyfor.

“Rydan ni’n trio cynnwys cymaint â phosib o artistiaid sy’n cyrraedd rhestrau byr y Gwobrau, ond hefyd rhai artistiaid sydd wedi bod yn arbennig o weithgar ac yn haeddu clod yn ein barn ni.

“Dwi’n credu bod yna amrywiaeth ardderchog i’r arlwy eleni, a hynny’n adlewyrchu amrywiaeth y genres cerddorol sydd gan y sin Gymraeg i’w gynnig ar hyn o bryd. Gyda thocynnau’n gwerthu’n gyflym cyn rhyddhau’r lein-yp, bydd y cyffro’n cynyddu rŵan - mae’n mynd i fod yn glamp o noson”

Ar hyn o bryd mae dal modd prynu tocyn i’r noson am y pris cynnar arbennig o ddim ond £12, ond bydd y cynnig yn dod i ben ddydd Sul 31 Ionawr, gyda thocynnau’n codi i’r pris llawn £15 y diwrnod canlynol.

Mae’r Selar yn cyhoeddi rhestrau byr y Gwobrau’n wythnosol, ac mae pedair rhestr wedi’u datgelu hyd yma sef ‘Record Hir Orau’, ‘Hyrwyddwr Gorau’, ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’ 

Rhannu |