Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Ionawr 2016

Becws traddodiadol ar ei newydd wedd yn dod â thwf economaidd i Ben Llŷn

Mae becws to gwellt traddodiadol ym Mhen Llŷn wedi dod â hwb economaidd i'r ardal gan gyflogi 14 aelod o staff.

Heb unrhyw brofiad fel pobyddion, prynodd Geraint a Gillian Jones Becws Islyn yn Aberdaron, Pen Llŷn dair blynedd yn ôl, fel busnes y gellid ei drosglwyddo maes o law i'r genhedlaeth nesaf.

“Roedd y busnes becws gwreiddiol, adeilad sinc pan brynon ni’r lle, wedi bod yn Aberdaron am bron i 100 mlynedd,” eglura Geraint.

“Ar wahân i bobi cacennau adref, doedd gennym ni ddim profiad o greu bara,” meddai Gillian. “Ond mi welon ni’r potensial ar gyfer y busnes pan osodwyd yr arwydd ar werth y tu allan a dyma feddwl ella y gallai fod yn fusnes y bydden ni’n gallu trosglwyddo i’r plant un diwrnod?”

Dyw’r byd busnes ddim yn ddiethr i’r teulu. Maent eisoes yn rhedeg fferm llwyddiannus gyda chefnogaeth y mab 18 oed, Gwion ac mae ganddynt fusnes twristiaeth ar yr un safle yn Anelog ger Aberdaron. Mae Gwyliau Fferm Aberdaron yn cynnwys bwthyn gwyliau, bunkhouse, a safle carafannau a gwersylla.

Ond pan benderfynodd y teulu brynu'r siop fara, roedd Gillian yn fwy na bodlon cymryd yr awenau yn y siop a chreu’r cacennau, ond roedd yn poeni pwy fyddai’n pobi’r bara?

“Mi wnes i ryfeddu pan ddywedodd Geraint y byddai'n hapus i ddysgu ac arwain ar y pobi, a hynny rhwng ei swydd fel gwerthwr cynnyrch amaethyddol. Mae wedi cymryd at bobi bara ac yn codi am 2:30 y bore yn ystod misoedd yr haf, a 5:00 y bore yn ystod y gaeaf gan greu bara ar gyfer y siop a’r tŷ coffi.

“Ond mi gafodd o athro da yn Alun, perchennog blaenorol Becws Islyn yn ystod y dyddiau cynnar. Mi dalodd y cwrs hyfforddi dwys a gafodd Geraint am bythefnos gydag Alun, ar ei ganfed!”

Bellach, mae’r ddau yn gweithio'n llawn amser yn Becws Islyn, gyda chefnogaeth gan dîm o 12 aelod o staff (1 llawn amser ac 11 rhan amser) yn ystod tymor prysur yr haf, sydd hefyd yn cynnwys eu merch 16 mlwydd oed, Fflur, yn ei hamser rhydd.

Bu newidiadau mawr i'r busnes, gyda Geraint a Gillian yn buddsoddi'n helaeth mewn adeilad newydd sbon to gwellt flwyddyn wedi prynu'r busnes.

“Doedd yr adeilad tun ddim yn addas i'r gwaith, felly dyma gyflogi’r pensaer Alwyn Griffith a’r dylunydd Robert David i greu popty, siop a thŷ coffi fyddai’n addas i’r weledigaeth oedd gennym ni ond gan gadw naws draddodiadol y busnes a oedd wedi bod yn Aberdaron ers cyhyd.

“Cawsom rai misoedd o weithio mewn cwt bugail fel siop dros dro yn y pentref ac uned arbennig wedi ei addasu fel popty. Felly, gallwch ddychmygu ein llawenydd o symud i mewn i adeilad newydd to gwellt Becws Islyn ym mis Gorffennaf 2014,” eglura Gillian.

Roedd trawsnewid yr adeilad hefyd yn cynnig y cyfle i’r cwmni edrych ar greu logo, brand ac arwyddion newydd. Daeth cefnogaeth i’r cwpl gan gynllun Cywain, Menter a Busnes, prosiect Llywodraeth Cymru sy'n cynnig gwerth ychwanegol at gynnyrch cynradd yng Nghymru.

Yn ôl Nia Môn, Rheolwr Datblygu Cywain: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Gillian, Geraint a'r teulu drwy’r broses gyffrous yma. Mae eu gweledigaeth a’u brwdfrydedd yn ddibendraw, ac mi wnaeth fy ngwaith o gynghori ar ddylunio, brand ac arwyddion ar gyfer Becws Islyn cymaint yn haws.

"Mae eu busnes yn enghraifft wych o dwf drwy fenter a buddsoddi. Maent wedi datblygu swyddi mewn ardal wledig yng ngogledd orllewin Cymru, gan ddod a manteision economaidd i'r pentref a chynnig profiad arall i dwristiaid yn y rhan yma o Wynedd."

Busnes arall o Wynedd sydd wedi cynorthwyo Cywain gydag elfen arbennig ar gyfer Becws Islyn yw cwmni dylunio Gringo ym Mhenygroes. Creodd y Cyfarwyddwr, Justin Davies, nid yn unig ddyluniad brand newydd ar gyfer y cwmni ond hefyd bocs anrheg unigryw yn siâp adeilad to gwellt a waliau calch y becws.

"Mae'r bocsys anrheg yn gynnyrch ar gyfer achlysur arbennig i’w ddefnyddio gan bobl leol neu ymwelwyr i gario cacennau neu basteiod gartref gyda nhw. Mae wedi cael derbyniad gwych, ac yn declyn marchnata da i'r becws, y tŷ coffi a’r siop,” eglura Nia Môn.

Mae Becws Islyn nid yn unig yn cynnig amrywiaeth o fara, cacennau blasus, pasteiod a brechdanau, ond hefyd te prynhawn traddodiadol yn y Tŷ Coffi, bara gwymon a bara Cwrw Llŷn.

Cynorthwyodd Coastal Wall Arts y teulu i greu murluniau a phaentiadau i addurno waliau’r Tŷ Coffi, gan ddwyn ysbrydoliaeth o lenyddiaeth, cerddi a chwedlau traddodiadol Cymru a Phen Llŷn.

I gael mwy o wybodaeth am Becws Islyn ewch i’w tudalen facebook neu ffoniwch 01758 760370. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chynllun Cywain ar gael ar y wefan, www.cywain.com

Cwmni Menter a Busnes sy’n llywio prosiect Cywain, gyda’r nod o ychwanegu gwerth at gynnyrch crai Cymreig o fewn y sector bwyd a diod. Cyllidwyd y prosiect trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 ac arianwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Rhannu |