Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Ionawr 2016

Galwad i gynyddu taliadau dewisol i helpu dioddefwyr treth ystafell wely

Mae AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts wedi galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu taliadau treth lloftydd dewisol i helpu'r rhai sy'n cael anhawsterau gydag effeithiau cosbol y dreth lloftydd.

Yn ystod Cwestiwn Brys yn Nhŷ'r Cyffredin, heriodd Liz Saville Roberts AS y Llywodraeth ar daliadau treth lloftydd dewisol sy’n ‘annigonol a mympwyol’.

Meddai: “Mae'r dyfarniad y Llys Apêl yn profi bod y dreth ystafell wely yn ddinistriol ac yn anymarferol. Dyma ffordd arall y mae Llywodraeth y DU yn erlid pobl fregus sydd ar fudd-daliadau.

“Rwy'n galw ar y Llywodraeth i gael gwared â'r dreth lloftydd ac, fel mesur dros dro, gynyddu taliadau treth lloftydd nes bod y Goruchaf Lys wedi dyfarnu.

“Mae fy awdurdod lleol yng Ngwynedd wedi dangos eu pryder a'u hymrwymiad drwy ychwanegu at y gronfa ddewisol o'u hadnoddau prin mewn ymateb i'r galw aruthrol am daliadau dewisol.

“Dylai'r Llywodraeth ddarparu cynnydd arbennig mewn taliadau dewisol mewn ardaloedd lle mae pwysau am dai, megis ardaloedd trefol a lle mae stoc tai yn anhyblyg, megis yn y sector dai cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig.

"Mae Llywodraeth yr Alban wedi dangos eu harweinyddiaeth a'u hymrwymiad drwy dalu'r dreth llofftydd yn llawn i bawb. Er gwaethaf eu geiriau cynnes, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dewis peidio â chymryd y cam hwn. Yr wyf yn galw arnynt unwaith eto i roi arian i liniaru effeithiau'r dreth llofftydd a hefyd ymrwymo i bolisi dim troi allan."

Rhannu |