Mwy o Newyddion
Cyhoeddi adroddiad ymgynghoriad ar doriadau gwasanaaeth Cyngor Gwynedd
Ym mis Mawrth 2016, bydd cynghorwyr Gwynedd yn penderfynu ar y pecyn o doriadau gwasanaeth fydd ei angen i helpu i bontio'r diffyg ariannol mae’r Cyngor yn ei wynebu yn ystod y cyfnod hyd at 2017/18.
Cyn hynny, bydd cynghorwyr yn cael y cyfle i werthuso'r holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan aelodau o'r cyhoedd a sefydliadau lleol yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus Her Gwynedd a gynhaliwyd cyn y Nadolig a oedd yn gyfle iddynt gael dweud eu dweud ar 118 opsiynau toriadau i wasanaeth posib.
Mae adroddiad ar ganfyddiadau'r ymarfer hwn wedi cael ei gyhoeddi a gellir ei ddarllen ar-lein drwy fynd i: www.gwynedd.gov.uk/hergwynedd . Bydd copïau caled hefyd ar gael ym mhob un o lyfrgelloedd y Cyngor o 30 Ionawr.
Fel rhan o'r ymarferiad ymgynghori Her Gwynedd:
• fe gyflwynodd dros 2,100 o unigolion a sefydliadau ymatebion holiadur ar-lein neu gopïau papur a oedd ar gael o swyddfeydd y Cyngor, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden ledled Gwynedd;
• fe wnaeth 615 o bobl leol fynychu un o'r 32 cyfarfod cyhoeddus neu sesiynau galw heibio a gynhaliwyd mewn lleoliadau ar draws y sir.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Mae penderfyniad y Llywodraeth i barhau i dorri gwariant cyhoeddus yn gyson yn golygu nad oes gan gynghorau ledled y DU bellach ddewis ond i dorri rhai gwasanaethau.
"Yma yng Ngwynedd, yn hytrach na gweithredu toriadau byrbwyll, rydym wedi bod yn benderfynol o seilio ein hymateb i'r agenda llymder hwn ar flaenoriaethau pobl a chymunedau lleol.
"Dyna pam, dros y misoedd diwethaf, rydym wedi dechrau trafodaeth ar ba wasanaethau i'w torri gan ofyn am farn trigolion a sefydliadau Gwynedd.
"Y broses 'Her Gwynedd' yma ydi’r ymgynghoriad cyhoeddus mwyaf y mae’r Cyngor wedi ei chynnal ac mae’n siŵr o fod yn un o'r ymarferion mwyaf cynhwysfawr o'i fath erioed yng Nghymru.
"Mewn cyfarfodydd o Gorris i Gaernarfon, Abermaw i Fangor ac ar-lein, mae wedi bod yn galonogol iawn i weld cymaint o bobl leol o bob oedran yn cymryd rhan amlwg yn y drafodaeth.
“O gynghorau ysgol, clybiau ieuenctid a chymdeithasau hanes lleol i gyrff sirol a chenedlaethol yn cynnwys Ffederasiwn y Busnesau Bach, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae ymhell dros 2,000 o ymatebion wedi dod i law.
“Fel Cyngor, hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gymryd rhan yn yr hyn a oedd yn ddi-os yn broses manwl a heriol i bawb a gymrodd rhan.”
Ychwanegodd Dilwyn Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd: "Dros yr wythnosau nesaf, bydd pob un o’r 75 o gynghorwyr Gwynedd yn cael y cyfle i ystyried yn fanwl yr holl ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus Her Gwynedd.
"Yn ogystal ag edrych yn ofalus ar y data cyffredinol, bydd cynghorwyr hefyd yn edrych yn ofalus ar yr adborth a dderbyniwyd gan grwpiau allweddol gan gynnwys pobl anabl, pobl ifanc a phobl hŷn, yn ogystal â'r adborth lleol a dderbyniwyd o bob un o'r 13 o ddalgylchoedd a phob gohebiaeth a dderbyniwyd gan sefydliadau ac unigolion.
"Bydd adroddiad ar strategaeth ariannol a fydd yn cynnwys rhestr derfynol o doriadau gwasanaeth yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ym mis Chwefror cyn i bob un o’r 75 o gynghorwyr Gwynedd ddod i benderfyniad terfynol ym mis Mawrth."
Wrth gyfeirio at ffigwr setliad llywodraeth leol derfynol ar gyfer Gwynedd a fydd yn gweld cyllideb y Cyngor yn cael ei dorri £2.6 miliwn yn 2016/17 yn hytrach na'r toriad £3.5 miliwn yr oedd y Cyngor wedi bod yn cynllunio ar ei gyfer, dywedodd Mr Williams:
"Mae ein dadansoddiad gyllideb ddiweddaraf yn awgrymu y bydd y diffyg ariannol y bydd Gwynedd yn ei wynebu yn 2016/17 yn £2.6 miliwn - tua £900,000 yn llai na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol - gyda gostyngiad tebyg yn y gyllideb ar gyfer 2017/18.
"Gyda'i gilydd, gallai hyn olygu na fydd angen i Gyngor Gwynedd weithredu’r cyfan o'r toriadau gwasanaeth £7 miliwn a oedd wedi ei ragweld y byddai eu hangen ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Rydan ni rŵan yn obeithiol y byddwn yn gallu sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer y cyfnod o ddwy flynedd drwy weithredu £5 miliwn o doriadau gwasanaeth yn hytrach na £7 miliwn.
"Er gwaethaf y gwelliant bychan hwn yn y rhagolygon ariannol, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i uchafu arbedion effeithlonrwydd er mwyn lleihau’r angen am doriadau gwasanaeth llwyr."
Llun: Dyfed Edwards