Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Ionawr 2016

Y Prif Weinidog yn lansio rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer 2016 i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Heddiw mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi lansio Rhaglen 2016 - cyfres o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Rhaglen 2016 yw'r llyfryn blynyddol diweddaraf yng nghyfres Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Mae'n rhoi hysbysrwydd i ddigwyddiadau a phrosiectau â chyswllt Cymreig sy'n cael eu cynnal yng Nghymru a thu hwnt yn ystod 2016. Mae'r lansiad yn cyd-fynd â Diwrnod Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf  sy'n cael ei gynnal yn Aberystwyth.

Prif bwyslais eleni fydd cofio Brwydr y Somme. Bydd rhan y 38ain Adran ym Mrwydr Mametz Wood, sydd â chymaint o gysylltiadau â Chymru, yn cael ei goffáu ar ganmlwyddiant y frwydr ar 7 Gorffennaf.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd Castell Caernarfon yn croesawu Poppies: Weeping Window gan yr artist Paul Cummins, a'r dylunydd Tom Piper. Roedd y gwaith celf eiconig o babïau yn rhan o arddangosfa Blood Swept Lands and Seas of Red yn Nhŵr Llundain a bydd yng Nghaernarfon dros gyfnod Dydd y Cofio a chanmlwyddiant diwedd Brwydr y Somme.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Mae Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 - 1918 yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar yr effaith sylweddol a gafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobl Cymru - ac i goffáu'r rhai a fu'n gwasanaethu gartref a thramor.

"Ni ddylem fyth anghofio'r aberth a wnaed gan bobl Cymru, ynghyd â gweddill y DU a lluoedd y cynghreiriaid. Mae hi mor bwysig bod cenedlaethau'r dyfodol yn gwybod am y rhyfel erchyll hwn ac yn deall sut y mae wedi llunio Cymru heddiw. Dylem geisio dysgu oddi wrth hyn er mwyn gallu symud at fyd mwy heddychlon.

"Mae safon y cydweithio a chydgysylltu ledled Cymru ers i mi lansio rhaglen goffáu genedlaethol Cymru ym mis Awst 2014 wedi bod yn eithriadol. Mae'r gweithgareddau sy'n cael eu rhestru yn Rhaglen 2016 yn profi y bydd hyn yn parhau gydol 2016 a thu hwnt."
 

Rhannu |