Mwy o Newyddion
Cymdeithas tai yn ymateb yn llym i gymdogion swnllyd ar ystâd
Mae cymdeithas tai wedi rhoi pen ar rai oedd yn codi twrw ac yn gwneud bywyd yn boen i breswylwyr eraill ar ystâd o dai yn Nyffryn Conwy.
Mae Cartrefi Conwy wedi sicrhau gorchymyn llys yn erbyn grŵp o chwech o bobl oedd wedi bod yn cynnal partïon swnllyd mewn eiddo ar ystâd Glanrafon yn Llanrwst.
Mae’r mesurau cyfreithiol llym yn golygu fod tri o unigolion nad ydynt yn breswylwyr oed yn ymuno â’r ymgynnull aflafar bellach wedi’u gwahardd o’r stad, ac mae’n rhaid i dri unigolyn sydd yn byw yno ymddwyn yn dda a pheidio ag achosi mwy o broblemau yn y gymdogaeth.
Bydd unrhyw un sy’n torri’r gorchmynion yn gallu cael ei arestio a’i orfodi i fynd o flaen y llys eto. Bydd gan y llys y pŵer i’w rhoi yn y carchar am hyd at ddwy flynedd.
Dywedodd Jan Jones, Rheolwr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar gyfer Cartrefi Conwy: “Cafwyd y gorchmynion yn erbyn chwe pherson oedd yn rhan o’r ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Rydym wedi cael sylwadau cadarnhaol iawn gan breswylwyr yn yr ardal fod yr ymyraethau sydd ar waith gennym yn gweithio. Rydym yn parhau i fonitro’r sefyllfa ond mae wedi bod yn wych clywed ei fod wedi gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i’r bobl sydd yn byw yno."
Eglurodd Jan iddynt gymryd camau wedi i’r problemau ddechrau yng Nglanrafon, ystâd gyda chyfanswm o 66 eiddo.
Dywedodd: “Dechreuodd llawer o’r partïon swnllyd hyn gael eu cynnal mewn un o’r tai.
“Roedd sŵn cerddoriaeth a gweiddi, oedd yn dod allan i’r ardal o amgylch y balconi, ac roedd hyd yn oed ychydig o gwffio a bu’n rhaid arestio ambell un mewn perthynas â hyn.
“Achoswyd mwy o aflonyddwch gan fod caniau a photeli alcohol gwag yn cael eu taflu dros y balconi i erddi tai cyfagos.
“Bu i hyn i gyd arwain at nifer o gwynion gan gymdogion, ac felly penderfynwyd gweithredu’n gyflym er mwyn atal problemau pellach.”
Ychwanegodd Jan: “Rŵan mae gennym fflat ar y ystâd sydd yn cael ei ddefnyddio fel man i breswylwyr ddod i’n gweld ac mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dwysau eu presenoldeb ar y stad.
“Un mesur pwysig a gymrwyd gan Gartrefi Conwy oedd gosod camerâu cylch cyfyng ar y stad. Defnyddir y camerâu i fonitro sefyllfa’r ystâd ac mae ein cydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru wedi’u lleoli yno’n rheolaidd i gasglu tystiolaeth am yr hyn oedd yn digwydd.
"Mi wnaethon ni weithio’n agos iawn gyda’r tîm plismona cyfagos a chafwyd llawer o gymorth gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu Raymond Elliott, Daniel Owen a Rhingyll Simon Evans.
“Hefyd roedd cryn nifer o gyfarfodydd gyda chynghorwyr lleol a oedd hefyd yn gefnogol iawn.
“Aethpwyd â’r mater o flaen y Llys Sirol yn Rhyl a bûm yn llwyddiannus wrth sicrhau gorchmynion yn erbyn chwe pherson oedd wedi bod yn ymwneud â’r partïon.
“Mae tri o’r gorchmynion hyn yn gwahardd pobl o du allan i’r ystad rhag dod i Glanrafon yn llwyr am o leiaf 12 mis, a’r rhai eraill i sicrhau nad yw’r tri pherson arall sydd yn byw ar y ystad yn achosi aflonyddwch na niwsans i denantiaid.
“Os bydd unrhyw un o’r gorchmynion hyn yn cael eu torri, gellir arestio’r unigolion a mynd â nhw yn ôl o flaen y llys. Bydd gan y llys bŵer i’w carcharu am hyd at ddwy flynedd.”
Yn ôl prif weithredwr Cartrefi Conwy Andrew Bowden, mae’n ymddangos fod y camau cyfreithiol wedi gweithio.
Dywedodd: “Mae ein polisi dim goddefgarwch yn erbyn pobl sy’n gwneud bywyd yn boen i’n tenantiaid drwy ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn llwyddiant ac nid oes unrhyw broblemau mawr wedi codi ers sicrhau’r gorchmynion.
“Rydym yn cymryd y math hwn o beth o ddifrif ac yn cymryd camau priodol cyn gynted ag y gallwn er lles y mwyafrif o’n preswylwyr sydd yn ufuddhau i’r rheolau.
“Oni bai am fynd â’r sawl sy’n gyfrifol yn ôl i’r llys, pe byddai gorchmynion yn cael eu torri gallwn hefyd edrych ar ailfeddiannu hefyd os ydyn nhw yn un o’n tai ni.
“Er mai hwn yw’r cam olaf bob amser, rydym wedi ailfeddiannu tri eiddo mewn ystadau eraill yn y 12 mis diwethaf a byddwn yn gwneud hyn yn syth os oes problemau’n ymwneud â cham-drin cyffuriau.
“Rydym wedi cymryd camau tebyg yn Llandrillo-yn-rhos yn ystod yr haf diwethaf pan roddwyd chwe gorchymyn i ni yn erbyn codwyr trwbl yno.”
Llun: Jan Jones, Rheolwr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar gyfer Cartrefi Conwy