Mwy o Newyddion
Merched yn cael eu tan-wasanaethu gan y sytem gyfiawnder medd AS Plais Cymru
Mae Llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder a Materion Cartref, Liz Saville Roberts AS wedi datgan fod menywod yng Nghymru yn cael eu cam-wasanaethu gan y system gyfiawnder ac nid yw carchardai yn diwallu anghenion dinasyddion Cymru.
Yn ystod dadl yn Nhŷ'r Cyffredin, bydd Liz Saville Roberts AS yn dadlau fod darpariaeth ar gyfer troseddwyr menywaidd yng Nghymru yn 'gwbl annerbyniol' gan alw ar y Llywodraeth i newid eu cynlluniau fel bod y carchar arfaethedig yn Wrecsam yn diwallu anghenion pobl Cymru yn well.
Cadarnhaodd yr AS Plaid Cymru wrthwynebiad ei phlaid i'r carchar ond dywedodd, er budd gwella mynediad at gyfiawnder yng Nghymru, bod angen ei addasu. Cododd hefyd bryderon am y goblygiadau o ran y gost ar Gymru.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae angen gweddnewid darpariaeth i ferched sy’n troseddu yng Nghymru i fod yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
"Nid oes carchar i fenywod yng Nghymru, nac o ran hynny, carchar i droseddwyr risg uchel, tra bod troseddwyr ifanc o'r gogledd yn cael eu gwthio dros y ffin oherwydd diffyg cyfleusterau addas.
“O ystyried bod Llywodraeth y DU wedi gwneud eu penderfyniad yn ôl pob golwg ar garchar Wrecsam, rwy’n credu y gallai'r Llywodraeth newid y cynlluniau fel bod y carchar yn diwallu anghenion pobl Cymru yn well.
"Y galw am leoedd carchar yng ngogledd Cymru yw tua 700, nid 2000. Byddai'n sicr yn gwneud synnwyr, felly, i wneud y defnydd gorau o'r carchar newydd gyda carchar confensiynol ar gyfer 700 o garcharorion, ac aden ar wahân ar gyfer merched, troseddwyr ifanc a charcharorion risg uchel.
"Fel y mae pethau, nid yw'r carchar yn diwallu anghenion Cymru. Mae'n flaenoriaeth ar gyfer system gyfiawnder ganolog i Loegr ar gyfer troseddwyr o bob rhan o ogledd-orllewin Lloegr. Bydd yn diwallu anghenion gogledd-orllewin Lloegr, nid gogledd Cymru.”
Mae Liz Saville Roberts AS hefyd yn cwestiynu yr effaith cost ehangach ar Gymru: "A fu gwerthusiad o'r costau ehangach i Gymru, yn enwedig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a fydd yn cario'r gost o ddarparu gofal iechyd i 2,100 o garcharorion?
"Os yw gofal iechyd yng ngharchar Caerdydd yn costio £2.24m mewn gofal, a oes unrhyw amcangyfrif wedi'i wneud o gostau gofal Wrecsam, carchar a fydd yn cartrefu dwy a hanner gwaith yn fwy o garcharorion?
"Mae angen i ni wybod faint o arian ychwanegol fydd ar gael i'r bwrdd iechyd gan Lywodraeth y DU drwy Lywodraeth Cymru."