Mwy o Newyddion
Y Lolfa’n herio’r Llywodraeth gyda sticeri Draig Goch
Mae gwasg adnabyddus yng Nghymru wedi penderfynu herio penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gynnwys baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd drwy roi’r cyfle iddynt osod sticeri o faner y Ddraig Goch yno yn eu lle.
Yn 2014 fe gyhoeddodd llywodraeth y DG y bydd baner yr Undeb yn ymddangos ar bob trwydded yrru newydd o hyn ymlaen gan ymddangos ger faner yr UE ar drwyddedau gyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Cafwyd beirniadaeth gref o’r penderfyniad gan unigolion megis aelod seneddol etholaeth Arfon, Hywel Williams o Blaid Cymru.
Llofnododd dros 3,000 o bobl y ddeiseb Gymreig ar-lein yn gwrthwynebu’r penderfyniad ond er hynny ym mis Gorffennaf 2015 fe ddechreuodd trwyddedau newydd arddangos baner yr Undeb.
Nawr, mae gwasg Y Lolfa wedi cynhyrchu sticeri draig goch fydd yn addas i’w gludo dros ben Jac yr Undeb.
"Rydym yn credu ei fod yn hollol annheg fod Prydeindod yn cael ei orfodi arnom yn y ffordd hyn." meddai Fflur Arwel, pennaeth marchnata y Lolfa. "Nid oes gan bobl y dewis i ddatgan eu cenedligrwydd na dangos eu balchder o fod yn Gymry."
Ysgrifennodd un cwsmer, Meurig Parri, at Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau haf diwethaf wedi iddo dderbyn ei drwydded newydd gyda Jac yr Undeb arno.
Dywedodd: "Dyma’r drwydded newydd yn cyrraedd gyda Jac yr Undeb arno. Cymro ydwyf i, a baner fy nghenedl yw’r Ddraig Goch, nid Jac yr Undeb.
"Mae croeso i bobl yn Lloegr dalu teyrngarwch i Jac yr Undeb os dyma yw eu dymuniad, ond ‘dw i’n gwrthwynebu’n gryf unrhyw ymgais i’m gorfodi i wneud yr un peth.
"Dyna beth mae Llywodraeth Llundain yn trio gwneud trwy fynnu bod Jac yr Undeb ar y drwydded yrru. Gweithred wleidyddol bur, gan ddefnyddio dogfen a ddylai fod y tu allan i wleidyddiaeth yn llwyr."
Derbyniodd Mr Parri ymateb i’w gwyn gan ATGCh yn esbonio fod penderfyniad y llywodraeth yn San Steffan i gynnwys baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru ‘oherwydd ei bod yn cryfhau'r teimlad o undod cenedlaethol.’
"Fy nghenedl yw Cymru. Os oes gennyf deimlad o ‘undod cenedlaethol’ bydd tuag at Gymru nid Prydain Fawr." ychwanegodd Mr Parri
"Fel person rhydd sydd yn byw mewn democratiaeth mae gennyf hawl i’m barn wleidyddol fy hun.
"Nid oes gan neb, yn cynnwys y Llywodraeth yn Llundain, hawl i orfodi barn gwleidyddol arnaf.
"A dyma ystyr y “cryfhau'r teimlad o undod cenedlaethol” yn llythyr yr ATGCh."
Bellach mae modd i Mr Meurig Parry ac unrhyw un arall sydd am gael draig goch ar eu trwydded gyrru brynu sticeri arbennig sydd wedi cael eu cynhyrchu gan Y Lolfa.
Pris pecyn o chwech sticer draig goch yw £2 ac maent ar werth mewn siopau llyfrau ac ar wefan Y Lolfa www.ylolfa.com