Mwy o Newyddion
Felix yn targedu Ceredigion
MAE Felix Aubel wedi cael ei ddewis i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Geredigion yn etholiadau’r Cynulliad fis Mai.
Mewn datganiad, fe ddywedodd y gweinidog o Dre-lech sydd hefyd yn arbenigwr ar greiriau, ei fod yn “falch iawn”.
“Fel rhywun sy’n gweithio mewn proffesiwn gofal, mae gennyf y profiad a’r wybodaeth i gefnogi Ceidwadaeth dosturiol i wella gwasanaethau yn ein hysbytai a’n canolfannau gofal cymdeithasol – llefydd rwy’n ymweld â nhw’n aml yn rhinwedd fy ngwaith,” meddai yn y datganiad.
“Rwy’n ymwybodol o’r angen i wella cyfleoedd addysg, hyfforddi a gwaith yng Ngheredigion. Bydd y gwelliannau hyn, ynghyd â mynediad gwell i dai da, nid yn unig yn hybu’r economi leol, ond hefyd yn gwella ansawdd bywyd.
“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy’n cynnig dewis arall i Lywodraeth aflwyddiannus Lafur Cymru, sydd ddim yn poeni o gwbl dros les ardaloedd gwledig,” meddai Felix Aubel wedyn, cyn ymosod ar y ddwy brif blaid fydd yn wrthwynebwyr iddo yn yr etholiad ymhen pedwar mis.
“Mae Plaid Cymru (deiliaid sedd Ceredigion) am geisio rhannu’r Deyrnas Unedig, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd yn gynyddol i’r chwith.”