Mwy o Newyddion
UCAC galw am hyfforddiant ym maes Technoleg Gwybodaeth ar frys
Yn sgil cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Estyn 2014-15 heddiw, mae undeb athrawon UCAC yn galw am sylw brys i faes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a chymhwysedd digidol.
Mae Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn tynnu sylw at ddiffygion y ffordd y cyflwynir TGCh yn y sectorau cynradd ac uwchradd.
“Mewn mwyafrif o ysgolion [cynradd], ceir diffygion pwysig mewn safonau TGCh. Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn defnyddio TGCh yn briodol ar gyfer prosesu geiriau, ymchwil a chyflwyniadau, nid ydynt yn datblygu’u medrau yn ddigon da mewn elfennau eraill o TGCh…ar draws y cwricwlwm. Dim ond mewn lleiafrif o ysgolion y ceir safonau TGCh da neu well.” (t.41)
“Yn y rhan fwyaf o ysgolion [uwchradd]... nid yw disgyblion yn cael digon o gyfle i ddatblygu’u medrau TGCh mewn pynciau ar draws y cwricwlwm. Mae disgyblion yn tueddu defnyddio medrau lefel isel, fel prosesu geiriau neu gynhyrchu cyflwyniadau sleidiau syml. (t.51)
A hynny er bod y:
“...rhan fwyaf o ddisgyblion yn ddefnyddwyr TGCh brwd ac yn gyffredinol maent yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd anghyfarwydd yn gyflym.” (t.51)
Ym mis Medi eleni, caiff Fframwaith Cymhwysedd Digidol ei gyflwyno yn ysgolion Cymru – fframwaith trawsgwricwlaidd yn yr un modd â’r Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd sydd eisoes wedi dod i rym. Golyga hyn y bydd disgwyl i bob athro ysgol, ym mhob cyfnod addysg, ac ym mhob pwnc ystyried plethu sgiliau digidol i’w gwersi.
Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Mae’r Prif Arolygydd yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau fydd yn caniatáu i bobl ifanc gael mynediad i fyd digidol heddiw ac yfory mewn modd hyderus ac annibynnol – ac mae UCAC yn cytuno’n llwyr â hynny.
“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddiffygion yn y ddarpariaeth bresennol - heb sôn am ofynion ychwanegol a ddaw o fis Medi ymlaen yn sgil cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd.
“Gwyddom fod diffyg hyder ymhlith llawer yn y proffesiwn ynghylch sgiliau digidol yn sgil diffyg cyfleoedd hyfforddiant. O ganlyniad, mae llawer fawr iawn o nerfusrwydd ac anwybodaeth ynghylch cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd.
“Mae Adroddiad y Prif Arolygydd yn atgyfnerthu’r angen am hyfforddiant buan a thrwyadl i athrawon yn y maes hollbwysig hwn, ac mae UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r sicrwydd hynny i athrawon ledled Cymru cyn gynted â phosib.”
Llun: Elaine Edwards