Mwy o Newyddion
Dysgwyr yw 'gobaith mawr y Gymraeg' meddai ymgynghorydd iaith a dyfeisydd gêm, Heini Gruffudd
"Gobaith mawr y Gymraeg yw’r bobl ifanc a’r oedolion sy’n dysgu’r iaith," meddai’r awdur, yr ymgyrchydd iaith a chadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd.
Daw ei sylwadau yn sgil ailargraffu’r gêm eiriau boblogaidd Gair am Air.
Dyfeisiwyd y gêm yn gyntaf yn yr 1980au gan Heini Gruffudd a byth ers hynny bu’n boblogaidd iawn ymhlith dysgwyr Cymraeg fel ffordd amgen o ddysgu’r iaith.
"Rwy’n gobeithio bod Gair am Air yn rhoi cyfle iddyn nhw gael tipyn o hwyl gyda’r iaith, gan ddefnyddio’r iaith wrth chwarae, a dysgu geiriau newydd yr un pryd," medd Heini.
Mae'r gêm yn addas i bawb, yn ddisgyblion ysgol, dysgwyr a phawb sy'n hoff o gêm dda, ac mae’n adnodd addysgol yn ogystal â gêm, sydd yn ei gwneud yn anrheg ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd a’u bryd ar ddysgu’r Gymraeg.
Bydd yn siŵr o lenwi gofod lle mae gemau bwrdd – yn enwedig gemau bwrdd Cymraeg – yn brin, gan roi cyfle arbennig i bobl ddod ynghyd a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Daw’r ailgyhoeddi yn sgil galw mawr gan siopau, athrawon a thiwtoriaid am argraffiad newydd o’r gêm.
"Mae’n dda gweld bod y Lolfa wedi penderfynu argraffu’r gêm eto. Rwyf wedi gofyn sawl tro am gael mwy ohonynt!" medd Jaci Taylor, Swyddog Datblygu Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru.
"Mae Gair am Air yn gêm addysgiadol wych sydd yn hawdd i’w deall ac yn hynod o ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd amrywiol.
"Mae’n gêm hyblyg sydd yn gallu cael ei chwarae ar ffurf croesair neu i chwarae gemau amrywiol.
"Mae’n dda i ddysgu’r wyddor Gymraeg neu i greu geiriau i’w gosod ar wrthrychau yn y stafell," eglurodd Jaci.
"Ond gellir chwarae gemau eraill hefyd, megis dethol ychydig o’r llythrennau i’w rhoi i dimau o ddysgwyr gan ofyn iddynt wneud cynifer o eiriau ag sy’n bosib, neu i weld pwy sy’n gallu gwneud y gair hiraf.
"Mae’r gemau hyn wedi bod yn rhai cystadleuol iawn ymhlith ein dysgwyr ni ac yn llawer o hwyl!" meddai hi.
"Rwy’n edrych mlaen at weld y Gemau Olympaidd yn derbyn Gair am Air fel un o’u cystadlaethau!" ychwanegodd Heini.
* Mae Gair am Air ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol (Y Lolfa, £9.95).