Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ionawr 2016

Lansio ymgyrch diogelwch ar y môr yn sgil marwolaeth pysgotwr lleol

Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi helpu i lansio ymgyrch i atal pysgotwyr masnachol rhag cael eu hanafu neu cael eu lladd gan beiriannau ar gychod tra allan ar y môr.

Mae Ymgyrch Diogelwch Peiriannau yr RNLI yn dod fel ymateb uniongyrchol i farwolaeth Gareth Jones, pysgotwr o Ben Llŷn, a fu farw ar ôl dioddef anafiadau difrifol pan aeth yn sownd mewn drwm winsh ar gwch bysgota cregyn bylchog oddi ar arfordir Porthdinllaen ddwy flynedd yn ôl.

Mae'r RNLI wedi sicrhau cyllid gwerth bron i £230m mewn menter ar y cyd rhwng y Gronfa Pysgodfeydd Morol Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.

Rhagwelir y bydd cyllid ar gyfer Cymru, drwy Lywodraeth Cymru, yn cael ei lansio yn swyddogol ym mis Chwefror.

Mae pedwar o bobl wedi cael eu lladd a 85 o bobl wedi cael eu hanafu yn ddifrifol gan beiriannau dec yn y pedair blynedd diwethaf.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r RNLI yn lansiad eu hymgyrch ddiogelwch, a ddaw fel ymateb uniongyrchol i farwolaeth Gareth Jones ddwy flynedd yn ôl.

“Roedd Gareth wedi ei eni a’i fagu yn bysgotwr a’i unig ddymuniad oedd bod yn berchen ar gwch ei hun. Arweiniodd pwysau ariannol arno iddo weithio ar ben ei hun.

“Mae pysgotwyr yn ymwybodol iawn o'r peryglon sy'n gysylltiedig â mynd i'r môr ar eu pen ei hunain, ond mae llawer yn cael eu hunain mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall.

"Pan gafodd Gareth y ddamwain, nid oedd ganddo unrhyw ffordd o ddianc ac aeth yn sownd yn y drwm winsh.

“Bydd y cyllid Ewropeaidd yma yn galluogi pysgotwyr i gael gwared â pheiriannau dec hen ffasiwn, peryglus, a gosod botymau diogelwch argyfwng neu liferi sy'n rhoi'r gorau i weithio pan maent yn cael eu rhyddhau.

"Er lles eich teulu a'ch ffrindiau byddwn yn annog pawb sy'n gweithio yn y diwydiant pysgota masnachol i lenwi'r ffurflenni a gwneud yn siŵr fod yr arian hwn yn cael ei wario i achub bywydau."

Llun: Liz Saville Roberts AS a Nick Fecher a Frankie Horner o’r RNLI

Rhannu |