Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ionawr 2016

Gwylio Adar yr Ardd RSPB - arolwg bywyd gwyllt mwya’r byd

MAE RSPB Cymru yn gofyn i deuluoedd dreulio awr yn unig yn gwylio adar eu gerddi ar 30 a 31 Ionawr i helpu RSPB Cymru ddeall beth sy’n digwydd i hoff adar gerddi Cymru yn y gaeaf.

Y llynedd bu dros hanner miliwn o bobl ledled y DU yn cymryd rhan, gyda 28,000 o’r bobl hynny yng Nghymru. O ganlyniad, Gwylio Adar yr Ardd yw arolwg bywyd gwyllt mwya’r byd.

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae’r RSPB hefyd yn gofyn i’r sawl sy’n cymryd rhan nodi rhywfaint o’r bywyd gwyllt arall a welir yn eu gerddi drwy gydol y flwyddyn megis y draenog, y llwynog, y carlwm a’r wiwer, i helpu creu trosolwg o ba mor bwysig yw gerddi o ran rhoi cartref i fyd natur.

Gwelwyd dros 8.5 miliwn o adar wrth iddyn nhw ymweld â gerddi’r DU y llynedd.  Yn anffodus nodwyd prinhad yn y nifer o llinosod, y titw penddu a’r durtur dorchog yng Nghymru, a chwympodd y boblogaeth o ddrudwennod sy’n nythu yn drawiadol hefyd o dros ddau draean.

Fodd bynnag, cafwyd newyddion da o safbwynt aderyn y to, gyda’r boblogaeth sy’n nythu bron yn dyblu yn yr ychydig ddegawdau diwethaf yng Nghymru, er gwaethaf y prinhad ledled y DU (+92% 1995 - 2013).

Meddai Eleri Wynne, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru: “Mae Gwylio Adar yr Ardd yn llawn hwyl i’r teulu i gyd ac mae’n hawdd iawn cymryd rhan.

"Rhowch y tegell ymlaen, ewch i nôl bisged a threuliwch awr yn gwylio’r bywyd gwyllt yn eich gardd neu barc lleol.

“Rydym wrth ein bodd yn clywed sut mae teuluoedd yn dod at ei gilydd i ddarganfod cyffro byd natur yn eu gerddi a does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr i gymryd rhan. 

"Mae gennym becyn ar-lein gyda phob dim sydd ei angen arnoch, hyd yn oed arweiniad sy’n eich helpu i nodi’r gwahaniaeth rhwng mwyalchen a thitw tomos las!

"Os byddwch yn tynnu lluniau, yna cofiwch eu hanfon draw atom oherwydd byddem yn falch iawn o weld beth welsoch chi.”

Os hoffech gymryd rhan, ewch i www.rspb.org.uk/birdwatch, ffoniwch 0800 665 450 neu anfonwch y neges-destun: BIRD i 60155.  Gallwch hefyd wylio’r gweithgaredd drwy gydol y penwythnos drwy ddilyn @RSPBCymru ar Twitter neu wrth ddefnyddio #GwylioAdar / #BigGardenBirdwatch.

Ychwanegodd Eleri: “Pob blwyddyn cawn ein synnu gan y nifer o bobl sy’n cymryd rhan.

"Does dim ots os welwch chi gyfoeth o fywyd gwyllt neu dim byd o gwbl – hoffwn glywed gennych chi beth bynnag.

"Mae’r holl wybodaeth hon yn ein helpu i greu darlun o dynged ein hoff adar ac yn gadael i ni wybod pa mor rhyfeddol a gwerthfawr yw ein cymdogion gwyllt.”

Mae’r arolwg yn rhan o ymgyrch Rhoi Cartref i Fyd Natur yr RSPB, sy’n canolbwyntio ar y diffyg cartrefi sy’n wynebu bywyd gwyllt y DU sydd mewn perygl.

Mae’r RSPB yn gofyn i bobl ddarparu lle i fywyd gwyllt yn eu gerddi a’u mannau awyr agored – un ai drwy osod blwch nythu i’r adar, creu pwll i gynnal nifer o wahanol rywogaethau neu greu cartref i ddraenog.

Mae cymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd yn un o’r camau y gallwch eu cymryd i helpu byd natur ar eich stepen drws. I ddysgu mwy ynglŷn â sut i Roi Cartref i Fyd Natur yn eich gardd chi ewch i www.rspb.org.uk/homes

Mae arolwg Gwylio Adar yr Ysgol, a gynhelir ar y cyd gyda Gwylio Adar yr Ardd, yn digwydd rhwng 4 Ionawr a 12 Chwefror 2016.  Cewch wybodaeth bellach ar rspb.org.uk/schoolswatch

Rhannu |