Mwy o Newyddion
Cytundeb treth Osborne a Google yn fuddugoliaeth wâg medd AS Plaid Cymru
Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams AS, wedi beirniadu’r Llywodraeth am eu hymgais 'symbolaidd' i gyrraedd cytundeb treth gyda Google.
Yn ystod Cwestiwn Brys yn Nhŷ'r Cyffredin ar y setliad treth rhwng HMRC a Google, condemniodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams AS, y Llywodraeth am eu hanghysondeb wrth gasglu trethi.
Yn dilyn y Cwestiwn Brys dywedodd Hywel Williams: “Nid cadwyn siopa stryd fawr yw Google, ond pŵer technoleg byd-eang gyda throsiant blynyddol o bron i £40bn gyda £4bn ohono yn cael ei wneud yn y DU. O'i gymharu â trethdalwyr cyffredin, mae nhw wedi derbyn cosb ysgafn iawn.
"Bydd llawer o drethdalwyr cydwybodol a busnesau bach sy’n cael trafferth gyda biwrocratiaeth tâp coch yn ei chael hi’n anodd dygymod â bargen y Canghellor â Google.
“Mae'r cwmniau mawr yma yn rhagori ar osgoi talu trethi; trethI a ddylai fod wedi eu talu dros nifer o flynyddoedd.
“Bydd ymdrechion y Canghellor i grafu’n ôl £130m mewn trethi gan Google dros y deng mlynedd ddiwethaf yn gwneud ychydig iawn i leddfu’r pryderon mai cam symbolaidd yn unig yw hyn gan Lywodraeth sydd a’u bryd ar ddenu cwmnïau rhyngwladol yn hytrach na chymryd camau llym yn erbyn osgoi talu trethi.
"Pan nad yw cwmnïau amlwladol yn talu trethi, mae'n golygu cynydd yn y diffyg cenedlaethol ac yn faich ar bobl sy'n gweithio'n galed a thalu eu trethi. Golygir hefyd lai o arian i'w wario ar hanfodion, megis y GIG, ysgolion a chasgliadau sbwriel.
"Mae hwn yn fuddugoliaeth wâg i'r Llywodraeth ac yn un sy'n gwneud honiad y Canghellor ‘ein bod i gyd yn hyn gyda'n gilydd’ yn destun sbort."