Mwy o Newyddion
Cyhoeddi enwau cyntaf lein-yp Gwobrau’r Selar
Mae enwau cyntaf lein-yp un o ddigwyddiadau mwyaf y calendr cerddoriaeth Cymraeg, Gwobrau’r Selar, wedi eu cyhoeddi.
Bydd y noson fawreddog yn cael ei chynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 20 Chwefror, a bydd llu o artistiaid mwyaf llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf yn perfformio.
Y perfformwyr cyntaf i’w henwi ydy:
Sŵnami: Mae’r grŵp o Ddolgellau wedi cael eu blwyddyn bwysicaf hyd yma gan greu argraff yn rhyngwladol wrth deithio i ŵyl Eurosonic, cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, sydd ar restr fer ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar eleni.
Band Pres Llareggub: Blwyddyn hynod lwyddiannus i’r band pres cyfoes yn rhyddhau EP ‘Bradwr’ ym mis Ebrill, ac yna eu fersiwn unigryw o Mwng gan y Super Furry Animals, sydd hefyd ar restr fer ‘Record Hir Orau’ y Gwobrau eleni.
HMS Morris: Mae’r triawd sy’n cael eu harwain gan yr enigma Heledd Watkins wedi cael blwyddyn fywiog fel rhan o gynllun Gorwelion ac wedi dal y sylw gyda’u setiau byw cofiadwy yn ystod 2015.
Terfysg: Grŵp ifanc o Fôn sydd wedi dod i amlygrwydd yn 2016 gan ryddhau sengl gyntaf fel rhan o gynllun Senglau’r Selar, cyn cyhoeddi EP ‘Ffynhonnell Ffôl’ ar label Copa fis Awst.
Aled Rheon: Un arall sydd wedi cael blwyddyn brysur fel un o artistiaid cynllun Gorwelion BBC Cymru a Chyngor y Celfyddydau
Bydd rhagor o artistiaid sy’n perfformio’n cael eu cyhoeddi wythnos nesaf, ac mae disgwyl i docynnau’r digwyddiad sy’n cael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth werthu’n gyflym dros yr wythnosau nesaf.
Digwyddiad yn tyfu
Mae Gwobrau’r Selar wedi tyfu’n flynyddol ers i’r noson fyw gyntaf gael ei chynnal yn Neuadd Hendre bedair blynedd yn ôl, ac mae disgwyl yn agos at 1000 o bobl yn Aberystwyth ar 20 Chwefror.
“Dyma ydy noson fawr gyntaf y flwyddyn gerddoriaeth, ac yn wir un o ddigwyddiadau cerddorol mwyaf y flwyddyn yng Nghymru erbyn hyn” meddai Uwch Olygydd cylchgrawn Y Selar, Owain Schiavone.
“Dwi’n siŵr bydd y cyffro’n cynyddu ar gyfer eleni wrth i ni gyhoeddi enwau cyntaf yr arlwy. Mae tipyn o feddwl tu ôl i’r lein-yp – rydan ni’n awyddus iawn i adlewyrchu llwyddiant y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r artistiaid i gyd yn haeddu eu lle ar y llwyfan.”
Mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi heddiw hefyd bod y cynnig pris arbennig ar docynnau Gwobrau’r Selar yn dod i ben ar ddydd Sul 31 Ionawr, gan godi i’r pris llawn £15 y diwrnod canlynol.
Mae pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar bellach wedi cau, ac fe gyhoeddwyd dwy restr fer, sef ‘Record Hir Orau’ a ‘Hyrwyddwr Gorau’ wythnos diwethaf. Bydd dwy restr fer arall yn cael eu cyhoeddi nos Fercher 27 Ionawr.