Mwy o Newyddion
Prifysgol Abertawe yn anrhydeddu Nigel Owens
Mae’r dyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens wedi derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.
Derbyniodd Mr Owens LLD, Doethur mewn Cyfraith, mewn seremoni yn Neuadd Brangwyn, Abertawe heddiw.
Meddai Syr Roderick Evans, Canghellor Prifysgol Abertawe, a gyflwynodd y Wobr: "Mae Nigel Owens wedi profi ei hun i fod yn ffigwr ysbrydoledig i'n cenhedlaeth, yn y byd rygbi yn ddi-os; ond hefyd oddi ar y cae, i filiynau o bobl sy’n medru uniaethu â’i agwedd benderfynol, ei falchder a’i ymroddiad tuag at ragoriaeth.”
Ganwyd a magwyd Nigel Owens ym mhentref Mynyddcerrig, yng Nghwm Gwendraeth. Adnabyddir yn eang fel y dyfarnwr gorau mewn undeb rygbi, caiff ei barchu gan chwaraewyr ledled y byd am ei wybodaeth arbenigol a’i werthusiadau diduedd o’r gêm.
Fe oedd yr unig Gymro a fu'n dyfarnu yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2007 yn Ffrainc, ac yng Nghwpan Rygbi’r byd yn Seland Newydd yn 2011. Dyfarnodd ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd yn Lloegr yn 2015.
Mae Nigel Owens hefyd yn adnabyddus am ei waith fel cyd-gyflwynydd ar raglen Jonathan, a ddarlledir ar S4C. Mae hefyd yn cyd-gyflwyno Bwrw’r Bar, a bellach mae ganddo raglen gwis ei hun, Munud i Fyd. Ym mis Awst 2011, cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Yn fuan wedi Cwpan Rygbi'r Byd yn 2007, enwyd fel 'Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn' gan y mudiad hawliau hoyw Stonewall mewn seremoni yn Llundain. Yn 2013, ddaeth yn noddwr o’r elusen Bullies Out yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd 2015 cyhoeddodd ei fod yn bwriadu parhau i ddyfarnu’n rhyngwladol am bedair blynedd arall.
Wrth dderbyn ei Radd er Anrhydedd gan Brifysgol Aberatwe, meddai Nigel Owens: “Pleser o’r mwyaf yw derbyn yr anrhydedd hwn gan Brifysgol Abertawe.
"Pan fyddaf ar y cae rygbi, yn chware yn ffeinal cwpan y byd neu mewn gêm leol, nid oes gwahaniaeth gen i, rwyf bob amser yn ceisio cadw at egwyddorion tegwch a glynu at y rheolau. Wrth wneud hyn, rwyf yn gobeithio cynnal gonestrwydd y gamp wych a alwn yn rygbi.
“Wrth gwrs, dylid cadw at reolau tegwch i ffwrdd o’r cae hefyd, a dyna pam rwyf yn frwd dros fy ngwaith elusennol gyda Bullies Out a chyn hynny pan oeddwn yn noddwr i elusen LGBT Cymru.
"Rwyf hefyd yn falch iawn o’r magwraeth ges i yng Nghwm Gwendraeth, lle mae’r defnydd o’r Gymraeg yn rhan annatod o fy mywyd bob dydd. I fi, mae siarad Cymraeg yn ffordd naturiol i gyfathrebu, ond rwy’n ymwybodol o’r pwysigrwydd o ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol mewn cyd-destun chwaraeon.
"Mae gwneud hynny yn codi proffil yn iaith, ac yn ei wneud yn rhywbeth normal. Rwy’n’n gobeithio bod pobl ifanc sy’n fy nghlywed i’n siarad Cymraeg yn rhoi’r hyder iddyn nhw defnyddio’u Cymraeg o dydd i ddydd hefyd.
“Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad rhagorol, ac yn un ‘dwi’n gwybod sydd yn angerddol am rygbi ac am chwaraeon yn gyffredinol. Mae'n anrhydedd bod y Brifysgol yn ystyried fy ngwaith a’r egwyddorion sy’n berthnasol i fy ngwaith a’m mywyd yn deilwng o radd er anrhydedd. Diolch yn fawr iawn.”