Mwy o Newyddion
Dangos gwrthrychau eiconig Indiana Jones am y tro cyntaf yng Nghymru
Mae’n anodd clywed y gair ‘archaeoleg’ heb feddwl am Indiana Jones. Bydd het, siaced a chwip yr anturiaethwr enwog i’w gweld fel rhan o arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy’n agor ar ddydd Mawrth 26 Ionawr ac yn rhedeg tan 30 Hydref 2016.
Bydd Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol – un o’r digwyddiadau cyntaf ym Mlwyddyn Antur Cymru 2016 – yn edrych ar sut mae archaeoleg wedi dylanwadu ar ddiwylliant poblogaidd, a dylanwad diwylliant poblogaidd ar archaeoleg, ers i’r anturiaethwyr cynnar ddechrau archwilio’r hen fyd.
Cafodd cymeriad Indiana Jones ei ysbrydoli gan gampau archaeolegwyr hanesyddol fel y ffigwr lliwgar Giovanni Belzoni, Flinders Petrie – ‘tad archaeoleg Eifftaidd’ – a'r anturiaethwraig Adela Breton. Bydd eu straeon nhw yn cael eu hadrodd yn yr arddangosfa newydd a’u cymharu â’r portread o ddarganfyddiadau archaeolegol mewn diwylliant poblogaidd, ffuglen a ffilm.
Mae llawer o’r gwrthrychau i’w gweld am y tro cyntaf yng Nghymru, gan gynnwys aur Cyn-Golumbaidd; arteffactau hynafol o gloddiadau Schliemann ym Mycenae, Groeg; dyfrlliwiau a darganfyddiadau o deithiau Giovanni Belzoni i’r Aifft ar ddechrau’r 19eg ganrif; penglog grisial o’r 19eg ganrif, ar fenthyg o’r Musée du Quai Branly, Paris; a’r penglog grisial o ffilm Indiana Jones and the Kingdom of The Crystal Skull, diolch i’r Lucas Museum of Narrative Art.
Mae gan Gymru hefyd ei siâr o drysorau ac anturiaethau archaeolegol. Bydd cyfle i ymwelwyr weld celc o fodrwyau a cheiniogau Rhufeinig o Sili, sydd wedi’u casglu ynghyd am y tro cyntaf ers cael eu darganfod ym 1899; arian o long yr Ann Francis, gafodd ei dryllio ar draeth Margam ym 1583; a gweddillion dynol o gladdedigaethau o oes y Llychlynwyr yn Llanbedrgoch, Ynys Môn.
Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol yw’r arddangosfa gyntaf i gael ei chynnal yn yr orielau dros-dro wedi’u hadnewyddu ar lawr gwaelod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – gwaith oedd yn bosibl diolch i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru, Ken Skates: “Mae’r arddangosfa hon yn ddechrau perffaith i ‘Flwyddyn Antur Cymru.’ Mae’n cynnwys nifer of straeon anturus am archwiliadau gan archeolegwyr, a’u darganfyddiadau hynod – ffaith a ffuglen. Rwy’n hyderus y bydd yn denu ac yn ysbrydoli ymwelwyr o bob oedran.
“Mae antur yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb ac yn sicr, mae yna rywbeth i bawb yng Nghymru. Fel un o brif sefydliadau twristiaeth Cymru, rwy’n falch iawn bod Amgueddfa Cymru yn ymuno â ni ar ein Blwyddyn Antur ac yn dechrau’r flwyddyn gydag arddangosfa mor arbennig.”
Bwriad y Flwyddyn Antur yw hyrwyddo gweithgareddau antur Cymru, o wifrau gwib a beicio mynydd i arddangosfeydd cyffrous mewn amgueddfeydd. Bydd hefyd yn cynnwys digwyddiadau i nodi canrif ers geni’r awdur Roald Dahl.
Ychwanegodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae anturiaethau archaeolegol yn dal y dychymyg. Does dim rhyfedd eu bod wedi ysbrydoli diwylliant poblogaidd. Mae eu dylanwad ym mhobman, o lyfrau, ffilmiau a rhaglenni teledu i bensaernïaeth, dillad, gemwaith a theganau.
“Gobeithio y bydd Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol yn cipio dychymyg ein hymwelwyr – waeth beth yw eu hoed!”
Mae ffi mynediad ar gyfer yr arddangosfa hon. Gallwch brynu tocynnau ar-lein ymlaen llaw (www.ticketlineuk.com/event/national-museum-cardiff/treasures-adventures-in-archaeology-exhibition-national-museum-cardiff-buy-tickets-5540) neu yn yr Amgueddfa ar y diwrnod (os oes rhai ar gael). Pris llawn £7; gostyngiadau £5; ac mae mynediad am ddim i blant 16 oed neu iau. Mae mwy o fanylion ar ein gwefan: (www.amgueddfacymru.ac.uk).
Mae’r arddangosfa ar agor o 10am bob dydd heblaw dydd Llun (ac eithrio dyddiau Llun Gŵyl y Banc), gyda’r mynediad olaf am 4pm.
Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa ei hun, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.