Mwy o Newyddion
Marw Dr John Davies
Bu farw Dr John S Davies, Abertawe, enillydd y Fedal Wyddoniaeth yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012.
Bu Dr John Davies yn Uwch Ddarlithydd mewn Cemeg Organig ym Mhrifysgol Abertawe.
Roedd yn frwd dros ddatblygu a chyflwyno Gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, gan barhau i ddarlithio ac ennyn diddordeb plant a ieuenctid De Cymru mewn Gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg a'r Saesneg hyd y diwedd.
Bu am flynyddoedd yn weithgar gyda Phanel Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ennill hefyd wobrau niferus ym maes gwyddoniaeth yn yr Eisteddfod.
Bu'n weithgar iawn yn hybu addysg Gymraeg yn ardal Abertawe a bu ganddo ran allweddol yn yr ymgyrch i sefydlu Ysgol Gyfun Gŵyr yn ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf Abertawe.
Roedd yn Gadeirydd hirdymor ar Gorff Llywodraethu’r ysgol honno. Roedd hefyd yn ysgrifennydd Eglwys yr Annibynwyr, Bethel Sgeti, Abertawe, er blynyddoedd lawer.
Brodor o Drelech, Sir Gaerfyrddin, oedd Dr John Davies.
Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe a chael ei ddoethuriaeth yno cyn mynd ymlaen yn gymrawd ymchwil yn Cambridge, Massachusetts.
Dychwelodd i Abertawe’n ddarlithydd yn 1964 a sefydlu grŵp ymchwil ar asidau amino, peptidau a phroteinau a dod yn arbenigwr mewn Cemeg Organig.
Bu’n adolygu gwaith yn y maes yn gyson i’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol . Ymddeolodd Dr John Davies yn 2007.
Mae’n gadael gwraig, Ann, dwy ferch, Eleri a Meinir, a’u teuluoedd.