Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Ionawr 2016

Leanne Wood: Amser dangos i'r byd pam ein bod yn caru Cymru

Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC heddiw wedi amlinellu sut y byddai llywodraeth Cymru dan ei harweiniad hi yn gweithredu i roi hwb i'r sector dwristiaeth ac i rannu gyda'r byd yr hyn mae pobl Cymru yn ei garu am ein gwlad.

Dyweodd Leanne Wood y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn dyblu'r gyllideb ar gyfer twristiaeth Gymreig o £7m i £14m, nodi 2018 yn Flwyddyn Bwyd a Diod Cymreig, a pharhau i gefnogi'r ymgyrch i dorri Treth Ar Werth i'r sector er mwyn rhoi hwb i fusnesau.

Dywedodd hi hefyd y byddai cynlluniau diweddar Plaid Cymru i sefydlu WDA (Asiantaeth Datblygiad Cymru) ar gyfer yr 21ain ganrif yn rhoi hwb i fuddsoddiad a masnach Cymreig, a sicrhau fod gwledydd ledled y byd yn deffro i botensial economaidd Cymru.

Dywedodd Leanne Wood: "Mae Cymru'n gartref i rai o'r golygfeydd harddaf a'r cynnyrch gorau yn y byd, ond rhaid gwneud mwy i sicrhau fod ein diwydiant twristiaeth hanfodol yn cael ei hyrwyddo yn well.

"Wrth i ni ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen, pa adeg gwell i amlinellu'r camau fyddai llywodraeth Plaid Cymru yn eu cymryd i ddangos i'r byd beth yr ydym ni sy'n byw yma yn ei garu am Gymru. 

"Yn gyntaf, byddem yn dyblu'r gyllideb ar gyfer twristiaeth Gymreig - o £7m i £14m - er mwyn galluogi'r sector i wneud mwy i ddangos y gorau o Gymru, adref a ledled y byd. Mae cynnydd wedi ei wneud mewn blynyddoedd diweddar ond nid da lle gellir gwell.

"Byddai llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn nodi 2018 yn Flwyddyn Bwyd a Diod Cymreig. Byddai hyn nid yn unig yn rhoi hwb i gynhyrchwyr lleol a'n diwydiant amaeth hollbwysig, ond hefyd y busnesau bach a'r manwerthwyr sy'n gam hanfodol ar y daith rhwng y fferm a'r fforc.

"Erstalwm, mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r ymgyrch i dorri Treth Ar Werth i'r diwydiant twristiaeth o 20% i 5% a byddwn yn parhau i wneud hyn. Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos y byddai hyn yn creu oddeutu 5,500 o swyddi ac yn golygu £166.4m ychwanegol i'r economi Gymreig.

"Byddai ein cynlluniau diweddar ar gyfer WDA i'r 21ain ganrif yn adfer statws Cymru fel grym economaidd o safon rhyngwladol, ac yn sicrhau fod gwledydd ledled y byd yn deffro i botensial buddsoddi a masnachu ein gwlad.

"Yn olaf, bydd Plaid Cymru yn sicrhau fod ein parciau cenedlaethol a'n hardaloedd o harddwch eithriadol naturiol yn cael eu gwarchod er mwyn sicrhau fod ein diwydiant twristiaeth yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng elwa'r economi a'r amgylchedd."

Rhannu |