Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Ionawr 2016

Brwydr ddewr David i ddod yn ofalwr mewn canolfan flaenllaw

Mae gŵr ysbrydoledig wedi brwydro ei ffordd yn ôl o gyflwr andwyol ar yr ymennydd i gael swydd yn gofalu am breswylwyr mewn canolfan rhagoriaeth dementia gwerth £7 miliwn.

Ychydig dros 15 mlynedd yn ôl cafodd David Edwards, sydd yn 46 mlwydd oed ac o Lanllyfni, ger Caernarfon, ei daro gan waedlif o dan yr arachnoid, a chafodd ei adael gyda rhywfaint o niwed i’r ymennydd.

Roedd mewn coma am dair wythnos, ac ar un adeg dywedodd y meddygon wrth ei deulu nad oedd unrhyw obaith iddo wella ac y byddai, mae’n debyg, yn cael ei adael mewn cyflwr disymud.

Ond, trwy ddewrder a phenderfyniad llwyr a chefnogaeth gariadus ei wraig, brwydrodd David ei ffordd yn ôl i ffitrwydd. 

Yn gymaint felly ei fod wedi cael swydd ymarferwr gofal yng nghanolfan flaenllaw Bryn Seiont Newydd; canolfan ofal pwrpasol gyda 71 gwely ar Ffordd Pant sy’n cefnogi amrywiaeth o anghenion dementia ac iechyd meddwl.

Syniad perchnogion sefydliad gofal Parc Pendine, Mario Kreft MBE a’i wraig Gill, yw’r ganolfan ddwyieithog, sydd wedi dod â 100 o swyddi i’r ardal.

Mae rhan gyntaf y datblygiad, sydd yn cynnig llety i 35 o bobl, nawr wedi agor yn llwyr ac mae tîm o 60 aelod o staff wedi’i benodi i ofalu amdanynt.

Yn eu plith mae David sydd bellach yn gweithio’n rhan amser wrth iddo adeiladu ei hyder a’i brofiad gyda’r bwriad o sicrhau rôl rheoli yn y diwedd.

Mae gan David a’i wraig Louise, sydd hefyd newydd ddechrau gweithio fel gweithiwr cefnogi gofal ym Mryn Seiont, ferch 21 mlwydd oed, Jade, a mab 16 mlwydd oed, Jonathan.

Am nifer o flynyddoedd roedd David wedi gweithio fel weldiwr yn teithio o amgylch y Deyrnas Unedig ond yn 1994 bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w swydd gan fod meddygon yn amau ei fod yn dioddef o epilepsi.

Yn ddiweddarach, sylwyd fod ei gyflwr yn arwydd cynnar o gamffurfiad rhydwythiennol - a elwir AVM - cyflwr prin sy’n cael ei achosi gan glymau yn y nerfau a’r gwythiennau yn yr ymennydd.

Ym mis Tachwedd 2000 arweiniodd yr AVM at waedlif anferth ar yr ymennydd, a darodd David yn oriau cynnar y bore.

Cafodd David ei ruthro i’r adran gofal dwys yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor a’r farn gychwynnol oedd ei fod yn annhebygol o oroesi.

“A dweud y gwir roedd pethau mor ddifrifol fel y gofynnwyd i’m gwraig a fyddai hi’n ystyried rhoi fy organau pe bawn i’n marw,” dywedodd David.

“Ond, daliais fy ngafael ac yna roeddwn mewn coma am tua thair wythnos.

“Wedi i mi ddod allan o’r coma doeddwn i ddim yn gallu siarad, cerdded na bwyta hyd yn oed ac roeddwn yn cael hylifau fel bwyd.

“Fodd bynnag, o fewn ychydig o fisoedd roeddwn wedi gwella ddigon i ddefnyddio cadair olwyn, ac yn araf bach newidiais hyn am ffrâm gerdded, baglau ac yna ffyn cerdded.

“Cefais sesiynau ffisiotherapi i wella fy nghryfder a’m cydbwysedd, a chefais therapi lleferydd i helpu i mi siarad eto ond roedd y gwella’n eithaf araf a doeddwn i ddim yn teimlo’n gryf iawn eto nes tua blwyddyn yn ôl.

“Dyna pryd roeddwn i’n teimlo’n ddigon ffit i weithio eto, ond yn amlwg, nid yn fy hen swydd fel weldiwr.

“Cefais swydd fel cynorthwyydd gofal mewn cartref preswyl bychan yng Nghaernarfon ac yna pan welais y swydd ym Mryn Seiont yn cael ei hysbysebu dw i’n siŵr mai fi oedd un o’r cyntaf i wneud cais.

“Roeddwn wrth fy modd i gael cynnig y swydd fel ymarferwr gofal a dechreuais ar fy hyfforddiant ym mis Hydref y llynedd.

“Ruan, rwy’n gweithio 30 awr yr wythnos ond wrth i mi gael mwy o hyder, dwi’n gobeithio y medraf gynyddu’r oriau.”

Ychwanegodd Dave: “Mae gen i AVM o hyd ond mae’r meddygon yn dweud wrthyf ei fod o’n mynd yn llai.

“Mae'n gyflwr prin nad yw’n effeithio ar lawer o bobl, ond yn ôl pob tebyg cefais fy ngeni gydag o.

“Yn ystod fy nghyfnod yn gwella cefais lawer o driniaethau arbenigol mewn ysbytai yn Lerpwl, Warrington a hyd yn oed Sheffield.

“Heblaw am hynny, yr hyn a wnaeth fy helpu drwy’r cyfan oedd y gefnogaeth gref a gefais gan fy ngwraig Louise. Mae wedi gweithio yn y sector gofal am nifer o flynyddoedd ac mae hi hefyd yn gweithio ym Mryn Seiont lle mae’n cael ei hyfforddi i gychwyn fel gofalwr yn ail ran y datblygiad fydd yn agor yn fuan.

“Mi wnaeth hi fy annog i wneud pethau yn ystod fy nghyfnod yn gwella nad oeddwn i’n meddwl oedd yn bosibl – ac weithiau roedd yn rhaid iddi weiddi arnaf fi i’m helpu!

“Rwyf wedi derbyn mwy o gyfrifoldeb yn barod gan y rheolwr ac rwy’n awyddus i dderbyn mwy. Fy nod yw cyrraedd swyddi rheoli yn y dyfodol agos.”

Mae David yn llawn clod am y ffordd mae Parc Pendine wedi rhoi swydd iddo ac wedi helpu ei wella.

Dywedodd: “Rwy’n falch iawn ac yn hynod ddiolchgar iddyn nhw oherwydd maen nhw wedi rhoi’r cyfle i mi brofi nad ydy niwed i’r ymennydd yn gorfod cyfyngu na gosod rhwystr rhag manteisio ar gyfleoedd sy’n codi.

“Rwyf yn cael llawer o gefnogaeth ac mae fy rheolwr a’m cydweithwyr eraill ym Mryn Seiont wedi bod yn wych. Maen nhw’n ymddiried ynof fi a dydw i ddim eisiau eu gadael nhw lawr.

“Rwyf wrth fy modd â’r holl breswylwyr rwy’n gofalu amdanyn nhw ac maen nhw hefyd wedi bod yn gefnogol iawn ers i mi ddechrau’r swydd.”

Dywedodd rheolwr Bryn Seiont, Sandra Evans: “Mae David yn gwneud yn dda iawn. Ar hyn o bryd mae’n gweithio’n rhan amser ond mae am wneud mwy wrth iddo ddod yn fwy ffit ac yn gryfach.

“Mae hefyd yn dda iawn i glywed ei ddyhead i fynd mewn i reoli yn y pen draw.

“Mae wedi gwneud gwellhad anhygoel o gyflwr ofnadwy wnaeth ei wanio’n arw, ac rydym yn falch ofnadwy o’i gael yma yn gweithio gyda ni.”

Dywedodd perchennog Parc Pendine, Mario Kreft: “Rydym yn hynod o falch i gael David fel aelod o’r tîm yma ym Mryn Seiont.

“Mae ei wellhad yn rhyfeddol a’i stori o ddewrder a dyfalbarhad yn erbyn disgwyliadau’r meddygon yn ysbrydoliaeth i bawb.

"Mae Parc Pendine a’r sector gofal cymdeithasol yn lle delfrydol i bobl ysbrydoledig fel David weithio.”

LLUN: David Edwards, ei wraig Lousie, a Mario Kreft

Rhannu |