Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Ionawr 2016

Penodi pennaeth Ysgol Ddilynol Dalgylch y Gader

Mae’r cynllun cyffrous i ddatblygu Ysgol Ddilynol Dalgylch y Gader wedi cymryd cam allweddol ymlaen wrth i Gorff Llywodraethol Cysgodol yr ysgol benodi Jano Owen i’r swydd pennaeth.

Ar hyn o bryd, mae Jano Owen, yn bennaeth ar ysgolion Bro Tryweryn a Bro Tegid ac mae disgwyl iddi gychwyn yn ei swydd fel Pennaeth Strategol Ysgol Ddilynol Dalgylch y Gader ar ôl gwyliau’r Pasg.

Bydd Mrs Owen yn arwain ar y gwaith o sefydlu’r ysgol ddilynol yn nalgylch Y Gader a fydd yn  weithredol ym Medi 2017. Bydd y cynllun yn  sicrhau buddsoddiad o £4.3 miliwn i wella cyflwr a chynaliadwyedd adeiladau ysgolion yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Rwy’n falch iawn fod Mrs Jano Owen wedi ei phenodi fel Pennaeth i arwain yr Ysgol Ddilynol newydd yn nalgylch Y Gader.

"Mae Jano yn Bennaeth profiadol iawn a hyderaf y bydd yn dod a’i phrofiad helaeth gyda hi i fynd i’r afael a’i swydd newydd  gyda brwdfrydedd  gan roi arweiniad cadarn i sefydliad hollol newydd.

“Bydd yn dipyn o her i sefydlu’r ysgol newydd ac mae llawer o faterion i’w cyfarch a’u gweithredu ond does gen i ddim amheuaeth y bydd Jano yn llwyddo i gael y maen i’r wal yn effeithiol ac yn llwyddiannus gyda chefnogaeth arbennig gan ei llywodraethwyr.

"Mae’r penodiad yma yn gam allweddol yn y broses o sefydlu model addysg arloesol yn nalgylch y Gader a fydd yn sicrhau sefydlogrwydd addysgol hir dymor ar gyfer disgyblion, rhieni a staff yr ardal.”

Meddai Helen Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethol Cysgodol Y Gader: “Mae’n bleser gennyf adrodd y bu i’r Bwrdd Cysgodol, yn unfrydol, benodi Jano Owen yn Bennaeth Strategol Ysgol Ddilynol y Gader, a hynny yn dilyn proses benodi gynhwysfawr a thrylwyr iawn.

"Fel Cadeirydd y Corff Llywodraethu Cysgodol, hoffwn longyfarch a dymuno’n dda i Jano ar ei phenodiad i’r swydd newydd gyffrous yma, ac edrychaf ymlaen yn arw i fod yn cyd-weithio â hi ar y cynllun arloesol yma. 

“Mae rhaglen waith sylweddol a manwl o’n blaenau i sefydlu’r Ysgol newydd, a bydd angen mynd i’r afael â gofynion lawer sydd ynghlwm â newid, ond nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd Jano yn arweinydd gwych, gan hefyd fod yn sensitif ac yn effro i lawer o faterion, cwestiynau a phryderon a fydd yn anochel yn codi dros y misoedd nesaf a thu hwnt.”

Ychwanegodd Arwyn Thomas, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae’n braf cael cadarnhau bod Mrs Jano Owen wedi ei phenodi fel Pennaeth Strategol i arwain yr Ysgol Ddilynol newydd yn nalgylch Y Gader.

"Mae’r swydd yma am fod yn un blaengar ac a fydd o bosib yn llinyn mesur ar gyfer cynlluniau eraill yn y dyfodol.

"Mae dalgylch Y Gader yn un eang a gwledig ac rwy’n sicr bydd y sefydliad arloesol newydd yma yn ateb gofynion y dalgylch a hefyd yn sefydliad addysgol gynaliadwy am genhedloedd i ddod.

"Pob lwc i Jano a’r llywodraethwyr wrth fynd ati i sefydlu fframwaith gadarn ar gyfer yr ysgol newydd.”

Mae Jano Owen yn bennaeth profiadol, sydd wedi bod yn bennaeth ar Ysgol Bro Tryweryn ers 1989 ac sydd wedi bod yn gyfrifol am Ysgol Bro Tegid yn ogystal.

Wrth gael ei phenodi, dywedodd Jano Owen: “'Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i sefydlu a datblygu Ysgol Ddilynol Dalgylch Y Gader.

"Mae'n gyfnod cyffrous ac unigryw iawn i'r ardal i gyd ac mi fydd yn bleser cael cyd-weithio gyda holl blant, rhieni, staff a llywodraethwyr a'u harwain i sicrhau y bydd gennym ysgol a fydd yn perthyn i bawb gyda phawb yn cymryd perchnogaeth lawn o'i datblygiad a'i llwyddiant.”

LLUN: Jano Owen yn cael ei llongyfarch ar ei phenodiad gan y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Gwynedd

Rhannu |