Mwy o Newyddion
Yr artist Mary Lloyd Jones fydd Tywysydd Parêd Aberystwyth 2016
Artist yw Tywysydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth a gynhelir ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth 2016. Mae Mary Lloyd Jones yn adnabyddus i bobl y dre a Chymru thu hwnt am ei gwaith celf ac am ei chariad a chefnogaeth i’r Gymraeg a chelfyddid Gymreig.
Rhoddir braint ‘Tywysydd’ ym mhob gorymdaith Gwyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013 a bydd y Tywysydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad bwysig i iaith a diwylliant Cymru.
Ganed Mary ym Mhontarfynach, hyfforddwyd hi yng Ngholeg Celf Caerdydd ac mae wedi arddangos yn gyson ers 1966 ac yn artist llawn amser ers 1989. Mae ei gwaith mewn sawl casgliad cyhoeddus gan gynnwys Ty’r Arglwyddi, The Smithsonian Collection yn Washington DC, BBC Cymru Wales, Amgueddfa Cymru, Amgueddfa ac Oriel Crawford, Cord yr Iwerddon, y World Trade Centre a Chasgliad y Victoria and Albert yn Llundain.
“Mae cryfder ac amrywiaeth y Gymraeg a’i diwylliant yn Aberystwyth oherwydd pobl fel Mary Lloyd Jones,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Gŵyl Dewi. “Mae gwaith Mary yn dangos amrywiaeth mawr ond dydy heb fod ofn ceisio ymwneud â Chymru yn ei chelfyddid gan ei teimlo bod ganddi gyfrifoldeb amddiffyn ac hyrwyddo yr iaith a’r diwylliant a chreodd hi. Bydd llawer yn cofio ei darlun enwog yn cefnogi pleidlais ‘ie’ yn Refferendwm Datganoli 1997."
Meddai Mary Lloyd Jones: “Yn Aberystwyth y sefydlwyd Prifysgol Cymru yn 1872 ac yma y cynhaliwyd protest enwog Pont Trefechan dros yr iaith Gymraeg yn 1963.
"Mae’r iaith Gymraeg yn gryfach oherwydd Aberystwyth ac mae’n parhau i fod yn ganolfan ddiwylliannol ac ieithyddol.
"Y prosiect mwyaf cyffrous yw rhoi bywyd newydd i’r Hen Goleg gall fod yn hwb creadigol a diwylliannol i Aberystwyth a Chymru gan greu cysylltiadau rhyngwladol rhwng Cymru, y Gymraeg a gweddill y byd.”
Cynhelir Parêd 2016 ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth. Bydd yn dilyn yr un llwybr â’r blynyddoedd blaenorol – dechrau o Gloc y Dre ac yna ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Popty a gorffen yn Llys y Brenin. Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.
Noddwyr:
Mae’r trefnwyr yn hynod ddiolchgar am nawdd – Cyngor Tref Aberystwyth; Cronfa Loteri Fawr, Cymru; Cambrian News, Cered, Cronfa Cofeb Rhyfel Aberystwyth, Cylch Cinio Aberystwyth. They are also grateful to the support of individuals and other clubs and societies in Aberystwyth who have made it possible to hold this vibrant and uplifting event again this year.
Tywyswyr Blaenorol:
Mae Mary yn dilyn yn ôl traed yr awdur a’r cyn-brifathro Gerald Morgan (2015); sylfaenwyr busnes Siop y Pethe, Megan a Gwilym Tudur (2014) a’r cerddor, awdur a chynhyrchydd teledu, Dr Meredydd Evans (2013). Fel Tywysydd bydd Mary yn gwisgo sash hardd a grewyd yn unswydd i’r Parêd gan Caroline Goodband o’r Borth ac sy’n cynnwys enwau cyn dywyswyr. Yn dilyn y traddodiad o Wlad y Basg, caiff Gerald hefyd rodd i’w gadw o ffon gerdded wedi ei gerfio gan Hywel Evans o Gapel Dewi.