Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Ionawr 2016

Noddfa gymdeithasol i bobl ifanc Pen Llŷn

Mae gan blant a phobl ifanc Pen Llŷn leoliad diogel i gymdeithasu a mwynhau ar ôl ysgol gyda chyfrifiaduron ym mhentref Nefyn, diolch i brosiect newydd gan Fenter Llŷn.

Mae Siop Siarad wedi ei lleoli yng nghanolfan Crwydro, siop sydd wedi ei hail-gynllunio ar y stryd fawr yn Nefyn. Derbyniodd y cynllun ieuenctid hwb ariannol gan brosiect Menter Llŷn a sefydlwyd i uwchraddio rhai o'r llwybrau arfordirol rhwng Nefyn a Morfa Nefyn ac sy’n gweithio i ail-agor llwybr hanesyddol y morwyr rhwng Abersoch, Llanbedrog a Nefyn.

Cynghorydd Plaid Cymru ar gyfer yr ardal, Gruffydd Williams yw un o'r bobl sydd y tu ôl i'r cynllun: "Mae Siop Siarad yn cynnig rhywbeth arbennig ar gyfer bobl ifanc Nefyn.

"Mae’n rhoi’r cyfle i’r plant gyfarfod mewn amgylchedd diogel ar ôl ysgol, cymdeithasu â'i gilydd wrth ddefnyddio offer technoleg gwybodaeth sydd ar gael yn y siop gan chwarae gemau neu baratoi eu gwaith cartref.

"Yn yr oes sydd ohoni, mae technoleg wedi dod yn rhan o'n bywydau bob dydd, ond y gwir yw  nad yw rhai teuluoedd difreintiedig yn gallu fforddio prynu neu dalu am y gwasanaethau sydd eu hangen i gael mynediad i fand eang a wi-fi. Mae Siop Siarad eisoes yn llwyddiant, gyda'r plant yn galw heibio ar ôl ysgol am gyfnod gan elwa ar y fenter gymunedol newydd."

Lleolir Siop Siarad yng nghanolfan wybodaeth Crwydro sy'n cynnig lleoliad canolog i ddarparu gwybodaeth i gerddwyr gael mynediad i'r llwybrau arfordirol ym Mhen Llŷn. Mae swyddfa Menter Llŷn hefyd wedi'i leoli yn Crwydro.

Yn ôl un o'r rhieni, Mark Jones, tad i Steffan, 11 oed o Ysgol Gynradd Nefyn sy’n ymweld â Siop Siarad: “Mae'r plant yn mwynhau cael amser rhydd gyda’i gilydd ar ôl ysgol.

"Gan fod ni’n byw mewn ardal wledig, mae'n rhaid i ni deithio i gael mynediad at amryw o weithgareddau hamdden mewn trefi fel Pwllheli.

"Mae cael Siop Siarad yma yng nghanol y pentref yn wych ar gyfer y plant. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r cynllun i ddod â’r cwbl at ei gilydd.”

Yn ôl Rheolwr Prosiect Menter Llŷn, Seimon Jones: "Yn yr ychydig fisoedd cyntaf ers i ni agor, rydym eisoes yn gweld bod angen buddsoddi ymhellach mewn mwy o offer technoleg gwybodaeth ar gyfer y bobl ifanc gan fod cymaint yn galw yma.

"Mae'r cynllun yn cynnig y cyfle i bobl ifanc gymdeithasu a chael gafael ar offer technoleg gwybodaeth mewn amgylchedd cymunedol lleol.

"Rydym yn ddiolchgar am y cymorth ariannol i brosiectau Menter Llŷn trwy arian Ewropeaidd drwy Gronfa Llwybr Arfordirol a'r Loteri Fawr."

Mae cynlluniau pellach ar waith i gyflwyno Clwb Swyddi i bobl leol sy'n chwilio am gefnogaeth yn Crwydro a chymorth wrth chwilio am waith.

I gael rhagor o wybodaeth am Siop Siarad, Crwydro neu Menter Llŷn, galwch i’r siop ar y stryd fawr yn Nefyn yng Ngwynedd LL53 6HD.

 

Rhannu |