Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Ionawr 2016

Big Learning Company i agor swyddfa yng Nghaerfyrddin

Mae Big Learning Company - cwmni o Gaerdydd sy'n arbenigo mewn Addysg; Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh); a’r sectorau digidol a chreadigol - yn agor swyddfa ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.

Mae'r cwmni rhyngwladol hwn eisoes wedi ymrwymo i fod yn rhan o Ganolfan S4C Yr Egin ond gan na fydd y Ganolfan yn agor ei drysau tan yn gynnar yn 2018, mae Big Learning Company (BLC) yn awyddus i sefydlu canolfan yng Ngorllewin Cymru cyn gynted â bod modd.

Dywedodd Louise Harris, Prif Swyddog Gweithredol y cwmni: “Mae Big Learning Company yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â Chanolfan S4C Yr Egin a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant - ac yn teimlo’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn o’r cychwyn cyntaf gan weithio ochr yn ochr â’r goreuon o’r byd addysg yng Nghymru, y Diwydiannau Creadigol a’r sectorau digidol sydd hefyd yn rhan amlwg o’r fenter.

“Mae'r prosiect hwn yn hanfodol bwysig, nid yn unig ar gyfer Caerfyrddin a chefn gwlad Gorllewin Cymru sydd yn gadarnle ar gyfer yr iaith Gymraeg, ond ar gyfer Cymru gyfan, fel porth digidol i weddill y byd, lle mae'r dalent orau a chynnwys Cymreig yn gallu dod o hyd i gyfleoedd a marchnadoedd newydd, cyffrous.

"Rydym yn gyffrous iawn i fod yn sefydlu swyddfa ar gampws y Brifysgol ac yn blês i fod yn datblygu’n presenoldeb yng Nghaerfyrddin i fod yn un o ganolfannau allweddol y cwmni ar gyfer cynhyrchu a gwasanaethu."

Mae Big Learning Company (BLC) yn gwmni cyffrous, rhyngwladol sydd â hanes a phrofiad o weithio gydag ystod eang o sefydliadau allweddol yn y byd Addysg, y Diwydiannau Creadigol a’r sector Cynhyrchu Digidol. Mae BLC yn cynnig prosiectau hyfforddiant, cynnwys ac arloesi ym mhob maes o ddarpariaeth addysg Cymru ac ar draws ystod o oedrannau, galluoedd ac ardaloedd.  Mae’n gwmni sydd hefyd yn cyd-weithio gyda brandiau rhyngwladol enwog.

Ychwanegodd Louise: "Rydym yn ymfalchïo yn impact ein gwaith a’n prosiectau wrth wneud dysgu yn gyffrous a phleserus; drwy roi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol a thrwy datblygu llwybrau dilyniant i addysg a'r gweithle; gyda thechnoleg ddigidol, ymgysylltiad â’r sector greadigol a dyfeisgarwch wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud.

“Mae cynnig cyfleoedd dysgu hyblyg a llwybrau cynaliadwy i addysg a’r byd gwaith yn rhan o genhadaeth BLC. Rydym hefyd wedi datblygu offer gwerthuso digidol arloesol, i ganiatáu i ni fesur yn gywir impact ac effaith ein rhaglenni a'n cynnyrch."

Mae dwyieithrwydd hefyd yn ganolog i waith BLC, gyda’r cwmni eisoes yn darparu nifer o brosiectau cyfrwng Cymraeg amrywiol a chyffrous gyda sefydliadau cenedlaethol gan gynnwys S4C a’r Urdd, gyda’r cwmni yn cynnig gweithdai hyfforddiant codio a digidol ar gyfer pobl ifanc. Yn ddiweddar, fe weithiodd BLC gyda'r Brifysgol, S4C a Chyngor Sir Gâr ar ddigwyddiad ‘Diwrnod Byd Gwaith'  - digwyddiad cyfrwng Cymraeg wnaeth gyflwyno myfyrwyr Blwyddyn 12 o rai o ysgolion uwchradd y sir i'r mathau o swyddi neu ddisgyblaethau sy'n debygol o gael eu cynrychioli o fewn Canolfan S4C Yr Egin.

Mae'r cwmni hefyd yn sicr yn cydnabod pwysigrwydd partneriaethau, gan gyd-weithio’n agos gydag amrywiaeth o addysgwyr, awdurdodau lleol, a chonsortia addysg a diwydiant i weithio'n llwyddiannus gyda dysgwyr o bob oed, i godi dyheadau ac i yrru arloesedd.

Ers sefydlu’r cwmni yn 2011, mae tîm arobryn o gynhyrchwyr ac arloeswyr digidol BLC wedi datblygu cyfres o becynnau i gefnogi ysgolion, busnesau a sefydliadau i arloesi a chreu effaith, gan gynnwys pecyn cymorth Ymchwilwyr Ifanc; Rhaglenni Gwella Ysgolion a  Rhaglenni Gwella Busnes ar gyfer offer symudol.

"Rydym yn hynod o falch i gael cwmni mor ddeinamig a llwyddiannus â Big Learning Company i ymrwymo i fod yn rhan o Ganolfan S4C Yr Egin. Yn wir, cymaint yw ymrwymiad y cwmni i'r datblygiad - ac i Gaerfyrddin - mae BLC eisoes wedi sefydlu swyddfa ar gampws y Brifysgol," meddai Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

"Dyma newyddion gwych i'r Brifysgol ac i economi'r dref. Mae'r ffaith bod cwmni fel Big Learning Company yn dymuno symud i Gaerfyrddin, hyd yn oed cyn i Ganolfan S4C Yr Egin agor ei drysau, yn tystio ei ymrwymiad i’n gweledigaeth ar gyfer y datblygiad. Rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio gyda Big Learning Company ac yn estyn croeso cynnes i’r tîm i Gaerfyrddin."

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Big Learning Company ac i ddysgu mwy am brosiectau’r cwmni, ewch i www.biglearningcompany.com

Llun: Rhes gefn (Chwith i’r Dde):

Mark John, Big Learning Company

Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Adleoli a Phrosiectau, S4C

Eifion Griffiths, aelod o gyngor y Brifysgol a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Canolfan S4C Yr Egin

Blaen (Chwith i’r Dde)

Louise Harris, Pris Swyddog Gweithredol, Big Learning Company

Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Rhannu |