Mwy o Newyddion
Dyfodol ansicr i Swyddfa Bost Aberystwyth
Mae AC Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones, wedi galw ar y Swyddfa Bost i beidio â chau ei swyddfa yng nghanol Aberystwyth, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y cwmni yn ceisio dod i gytundeb gyda siop arall i redeg y Swyddfa.
Fel rhan o adolygiad o Swyddfeydd Post y Goron, mae’n bosib y daw presenoldeb y Swyddfa Bost yn ei chartref traddodiadol yn stryd fawr Aberystwyth i ben.
Mae’r Swyddfa Bost yn honni fod ei rhwydwaith o Swyddfeydd Coron yn gwneud colled, ac felly’n cynllunio i symud y gwasanaethau i siopau eraill mewn cytundebau ‘franchise’.
Cadarnhaodd y Swyddfa Bost wrth Elin Jones ei bod am hysbysebu am bartneriaid ‘franchise’, ac yn bwriadu cau’r Swyddfa yng nghanol y dre.
Dywedodd Elin Jones; “Mae hyn yn ddatblygiad sy’n achosi pryder mawr, am nifer o resymau.
"Mae’r adeilad yng nghanol Aberystwyth yn leoliad eiconig a hanesyddol; byddai’n drueni mawr ei cholli.
“Fel mae unrhywun sydd wedi bod i ddefnyddio’r Swyddfa Bost ar adegau prysur yn medru tystio, mae Swyddfa Bost y Goron yn Aberystwyth yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan y cyhoedd, ac mae’n adeilad mawr, hygyrch a phwrpasol.
"Rwy’n teimlo y dylid cadw’r Swyddfa Bost yn ei leoliad presennol.
“Mae saith o swyddi yn y brif Swyddfa Bost yn Aberystwyth, a bydd y cyhoeddiad yma yn achosi pryder i weithwyr a’u teuluoedd.
“Mi fydd proses yn cychwyn o hysbysebu am bartneriaid ac ymgynghori. Byddwn yn annog pobl yn Aberystwyth i ddweud eu barn yn glir wrth y Swyddfa Bost.”