Mwy o Newyddion
Pen-blwydd yn sbarduno 50 o resymau dros godi arian i elusen ganser yng Nghymru
Mae unig elusen ymchwil canser unswydd bwrpasol Cymru yn dathlu’i 50fed pen-blwydd yn 2016 gyda lansio her codi arian genedlaethol i bobl Cymru.
A hwythau wedi’u sefydlu yn 1966 gan grŵp bychan o athrawon wedi’u lleoli yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, mae Ymchwil Canser Cymru ers hynny wedi tyfu i fod yn fudiad mawr yn y frwydr i ddarganfod triniaethau manwl newydd ar gyfer canser, diagnosis cynnar a chynnydd tuag at iachâd mewn safleoedd ym Mangor, Abertawe a Chaerdydd.
Cefnogir yr elusen gan lawer iawn o bobl gyffredin ledled Cymru, sydd wedi codi miliynau o bunnau drwy gymynroddion, heriau anhygoel i godi arian, rhoddion a phryniannau mewn siopau elusen. Rhoddir pob rhodd a wneir i Ymchwil Canser Cymru yn syth i’r timau o wyddonwyr blaenllaw, sydd ymysg goreuon y byd, a leolir yma yng Nghymru, er budd cleifion canser ym mhobman.
Yn awr, wrth i’r elusen nodi’i 50fed pen-blwydd, mae’n apelio at bobl Cymru i roi cynnig ar ei hymgyrch ‘Fifty for Fifty’ gan helpu Ymchwil Canser Cymru i barhau â’i waith hanfodol yn y frwydr yn erbyn canser.
Mae’r her yn syml – p’un ai ei fod yn rhedeg 50 milltir, pobi 50 o deisennau, codi 50 o bwysau neu chwarae 50 o offerynnau, mae Ymchwil Canser Cymru yn gobeithio y bydd eu cefnogwyr creadigol yng Nghymru yn codi cymaint o arian â phosibl, gyda 50 fel thema.
Mae gan yr elusen hefyd ei hamrywiaeth ei hun o ddigwyddiadau dathliadol ar y gweill i godi arian yn 2016, yn cynnwys taith fawr yn Anialwch y Sahara lle’r ymunir â’r elusen gan gefnogwyr, yn cynnwys y dyluniwr ffasiwn, Julien MacDonald, a chyflwynydd ITV, Ruth Wignall, yn ogystal â digwyddiad awyrblymio, y Naid Fawr Gymreig, Y Ddringfa Fawr Gymreig, apêl colli pwysau ‘Lose Pounds to Raise Pounds’ a llawer mwy o gyfleoedd i bobl ddangos eu cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.
Bydd 2016 hefyd yn dyst i gyhoeddi grantiau mawrion, hynod bwysig gan yr elusen i brosiectau ymchwil cyffrous yng Nghymru a leolir mewn prifysgolion ac ysbytai ledled Cymru.
Wrth siarad am 50fed Pen-blwydd yr elusen, dywedodd Liz Andrews, Cyfarwyddwr Elusennau Ymchwil Canser Cymru: “Dim ond drwy gefnogaeth pobl yng Nghymru, a redodd, a ddringodd, a feiciodd, a bobodd, a bartïodd, a gasglodd, a siopodd ac a roddodd y mae’r elusen wedi gallu gwneud y fath effaith yn y frwydr yn erbyn canser yn yr 50 mlynedd diwethaf hyn.
“Dengys y ffigurau diweddaraf bod tua 50 o bobl yng Nghymru bob dydd yn cael diagnosis o ganser. Fodd bynnag, mae mwy o bobl yn goroesi canser nag erioed o’r blaen, gydag ymchwil yn cyfrannu’n sylweddol, diolch i’r datblygiadau a wneir gan wyddonwyr ym meysydd atal, diagnosis cynharach o ganser a gwell triniaethau. Gall miloedd o deuluoedd ledled Cymru yn awr ddisgwyl treulio mwy o amser gyda’u hanwyliaid, diolch i wyddoniaeth ymchwil canser, ac oherwydd yr ymdrechion codi arian a wneir gan bobl gyffredin.
“Eto, erys digon o waith i’w wneud. Gwyddom fod un o bob tri o bobl yng Nghymru yn debygol o gael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes, ac mae angen mynd i’r afael â hynny. Po fwyaf o arian a godwn, po fwyaf o fywydau y gallwn helpu i’w hachub a’u gwella yn y dyfodol, a dyna pam ein bod yn apelio at bobl Cymru yn y flwyddyn arbennig iawn hon.
“Efallai eich bod wedi trechu canser a'ch bod yn cyrraedd 50 eleni ac eisiau dathlu gyda ni; efallai eich bod chi a’ch teulu wedi teimlo effeithiau canser i’r byw. Mae yna gymaint o gerrig milltir ac atgofion fydd yn ddwys bersonol i bron pawb yng Nghymru y cyffyrddwyd â nhw gan ganser, ac yn 2016 bydd yna o leiaf 50 o resymau i godi arian gyda ni ac i wneud gwahaniaeth positif.”
Hanner cant o Syniadau Codi Arian
Gwirfoddoli 50 o oriau yn un o’n siopau elusen
Codi £50 drwy helpu gydag un o’n casgliadau mewn bwced
Beicio 50 milltir
Rhoddi £50 drwy’n tudalen Just Giving
Pobi 50 o deisennau cwpan
Rhedeg 50 cilometr
Dim yfed alcohol am 50 niwrnod
Gwau 50 o sgarffiau
Rhedeg 50 lap trac rhedeg
Cwblhau 50 o sesiynau yn y gampfa
Codi pwysau 50 o weithiau
Cerdded 50 milltir dros nifer penodol o ddyddiau
Bod yn ddistaw am 50 awr
Dim bwyta siocled am 50 niwrnod
Dim yfed te am 50 niwrnod
Nofio 50 hyd pwll nofio
50 cilometr ar felin draed
50 awr o Swmbathon
Marathon 50 awr o daflu dartiau
Darllen 50 o lyfrau
Felothon 50 awr dan do
50 o gylchynnau hwla
Taflu crempogau 50 gwaith
Ymarferion gwthio i fyny 50 gwaith
Ymarferion eistedd i fyny 50 gwaith
Dysgu dweud ymadrodd mewn 50 o ieithoedd
Fel grŵp, colli 50 pwys o bwysau
Codi 50 cilogram
Marathon 50 awr o ffilmiau
50fed parti pen-blwydd
Eillio 50 o bennau
Abseilio 50 troedfedd
Dringo 50 rhes o risiau
Cadw 50 o oedau carwriaeth
Ysgrifennu 50 o flogiau
Rhoi cynnig ar 50 ystum ioga
Rhoddi 50 o eitemau i siop Ymchwil Canser Cymru
Plicio 50 o datws
Cael 50 o dyllau chwarae golff
Bod yn llysieuwr(aig) am 50 niwrnod
Cael 50 o stripiau cŵyr
Bwyta 50 toesen
Gwau 50 o hetiau
50 steil gwallt
Chwarae 50 o gemau tenis
Cael 50 tatŵ
50 awr o chwarae bingo
Cynnal 50 o foreau coffi
Pobi 50 o fathau o deisennau
Rhoi cynnig ar 50 o ryseitiau newydd