Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Ionawr 2016

£2.5 miliwn i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo o ysbytai Cymru

Mae Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi mesurau newydd i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal yn y GIG yng Nghymru.

Bydd £2.5 miliwn yn ariannu cyfres o fesurau i leihau nifer y bobl, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn bobl hŷn, nad ydynt yn gallu gadael yr ysbyty oherwydd rhesymau gofal cymdeithasol. Bydd gwneud hyn yn rhyddhau gwelyau mewn ysbytai i gleifion sydd eu hangen.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 435 o bobl wedi wynebu oedi wrth drosglwyddo o ofal ym mis Rhagfyr 2015; y trydydd mis yn olynol lle mae nifer yr achosion o oedi wedi lleihau.

Er hynny, y rhesymau am oedi ar gyfer mwy na hanner o'r bobl hynny (53%) oedd: gorfod aros am asesiadau am ofal yn y gymuned oedd heb eu cynnal yn ddigon cyflym; oedi wrth i bobl hŷn ddewis cartref gofal; neu oedi wrth i rywun aros am le mewn cartref gofal.

Bydd y £2.5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn galluogi byrddau iechyd, awdurdodau lleol, gwasanaethau tai, y Trydydd Sector a'r sector annibynnol i gydweithio i sicrhau bod pecyn priodol o ofal a chymorth ar gael i bobl sy'n wynebu oedi wrth drosglwyddo o'r ysbyty. Bydd hyn yn eu galluogi i adael yr ysbyty gyda'r pecyn cywir o gymorth, naill ai i fynd adref neu i fynd i gartref gofal o'u dewis. Bydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ranbarthau roi cymorth i bobl a grwpiau eraill i aros yn annibynnol yn y cartref ac yn y gymuned.

Drwy gydweithio fel rhanbarthau, bydd byrddau iechyd yn derbyn cyfran o'r £2.5 miliwn er mwyn cydweithio â'u partneriaid.

Y Gogledd - £598,000

Y Canolbarth a'r Gorllewin - £470,000

Bae'r Gorllewin - £433,000

Cwm Taf - £243,000

Caerdydd a'r Fro - £308,000

Gwent - £450,000

Bydd manylion y prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarch. 

Mae'r buddsoddiad yn rhan o'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £20 miliwn. Mae'r rhan fwyaf o'r gronfa - £17.5 miliwn - yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau llwyddiannus ar hyd a lled Cymru sydd wedi integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol; wedi helpu i gadw pobl yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a chryfhau hyblygrwydd y system gofal heb ei drefnu.

Dywedodd yr Athro Drakeford: “Yng Nghymru, rydyn ni wedi buddsoddi yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan fod pobl eiddil a hŷn yn dibynnu arnyn nhw i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.

"Mae'r buddsoddiad hwn wedi arwain at leihad graddol yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, sy'n gwbl groes i'r duedd a welir mewn ardaloedd eraill yn y DU.

“Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod mwy na hanner yr achosion o oedi wrth adael yr ysbyty yn digwydd oherwydd bod pobl yn oedi cyn dewis cartref gofal, yn aros am le, neu’n aros am asesiad cymunedol. Mae hyn yn digwydd er eu bod yn ddigon iach i gael eu rhyddhau.

“Y flaenoriaeth ar gyfer y cyllid o £2.5 miliwn rwy'n ei gyhoeddi heddiw fydd lleihau a chael gwared ar yr achosion o oedi hyn, gan ryddhau gwelyau yn yr ysbyty i'r bobl sydd eu hangen. Rwy'n disgwyl gweld camau gweithredol ar waith yn syth i sicrhau bod pobl, yn enwedig pobl eiddil a'r henoed nad oes angen iddyn nhw fod yn ein hysbytai acíwt, yn cael cymorth i symud i leoliadau mwy addas, boed i'w cartrefi eu hunain, i lety â chymorth neu i lety preswyl.”

Rhannu |