Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Ionawr 2016

Cyhoeddi rhestrau byr cyntaf Gwobrau’r Selar

Mae rhestrau byr cyntaf Gwobrau’r Selar eleni wedi eu cyhoeddi.

Caewyd pleidlais gyhoeddus y gwobrau cerddoriaeth gyfoes nos Wener (15 Ionawr), gyda’n agos at 1500 o bobl wedi bwrw pleidlais dros y 12 categori.

Bydd y rhestrau byr o’r tri enw i ddod ar frig y bleidlais ym mhob categori’n cael eu datgelu rhwng hyn a noson Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth ar nos Sadwrn 20 Chwefror.

Y ddau gategori cyntaf i’w datgelu oedd ‘Record Hir Orau’ a ‘Hyrwyddwr Gorau’.

Mae categori y Record Hir yn cynnwys unrhyw albwm neu gryno albwm Cymraeg i’w rhyddhau yn ystod 2015. Y dair record sydd wedi dod i’r brig eleni ydy Tir a Golau gan Plu; Sŵnami gan Sŵnami, a Mwng gan Fand Pres Llareggub.

Yr ail restr fer i’w datgelu ydy’r ar gyfer categori ‘Hyrwyddwr Gorau’, a’r tri hyrwyddwr i ddod i’r brig ydy trefnwyr Maes B, hyrwyddwyr gigs rheolaidd 4 a 6 yng Nghaernarfon, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bydd dwy restr fer arall yn cael eu datgelu gan Y Selar nos Fercher nesaf, 27 Ionawr a’r enillwyr i gyd yn cael eu cyhoeddi ar noson Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar 20 Chwefror.

Llun: Cipiodd cyn ganwr Frizbee, Ywain Gwynedd, dair gwobr yn 2015, sef 'Artist Unigol Gorau', 'Cân Orau' am y trac 'Neb ar Ôl', a 'Record Hir Orau am ei albwm unigol cyntaf Codi/Cysgu

Rhannu |