Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Ionawr 2016

Rhagor o gyfleoedd i gyflwyno sylwadau wrth i Horizon ddiweddaru ei gynlluniau i ymgynghori â chymunedau

Mae trigolion Ynys Môn a Gogledd Cymru yn cael rhagor o gyfleoedd i helpu i siapio’r cynigion ar gyfer Wylfa Newydd, wrth i Horizon gyhoeddi diweddariad i’w gynlluniau swyddogol i ymgynghori â chymunedau.

Roedd Datganiad o Ymgynghori Cymunedol cyntaf Horizon wedi cael ei gyhoeddi yn 2014 ac mae’n nodi sut bydd yn ymgynghori’n ffurfiol â phobl leol, yn ogystal â’r cymunedau a’r grwpiau y gallai’r datblygiad gorsaf bŵer gwerth miliynau o bunnoedd arfaethedig effeithio arnyn nhw.

Wedi ymgynghoriad gyda Chyngor Sir Ynys Môn, bydd y Datganiad o Ymgynghori Cymunedol newydd yn cael ei hysbysebu mewn amrywiaeth o bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg a Saesneg o ddydd Iau 21 Ionawr a bydd hefyd yn cael ei gyhoeddi’n llawn ar wefan Horizon. Bydd copïau caled ar gael mewn llyfrgelloedd ar draws yr Ynys o’r wythnos ganlynol ymlaen.

Dywedodd Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu yn Pŵer Niwclear Horizon: “Mae hi’n bwysig iawn bod ein cynigion ar gyfer Wylfa Newydd yn adlewyrchu’r adborth a ddaw gan bob cymuned ar draws yr ynys a’r rhanbarth ehangach.

"Rydyn ni wedi newid amseriad ein hymgynghoriad yn ddiweddar ac mae hyn wedi golygu ein bod wedi gallu ychwanegu hyd yn oed rhagor o gyfleoedd dros y misoedd nesaf i bobl leol gael dweud eu dweud ynghylch ein cynlluniau.”

Bydd cam nesaf Horizon o ymgynghori cymunedol yn dechrau ddydd Llun 25 Ionawr a bydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal drwy gydol dechrau’r gwanwyn.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn parhau â'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Horizon ers cam cyntaf ei ymgynghoriad mawr yn 2014 ac mae’n gyfle arall i bobl weld ei gynlluniau diweddaraf a rhoi adborth ar ei gynigion.

Bydd y digwyddiadau gwybodaeth cyhoeddus yn cael eu dilyn gan gyfres o gyfarfodydd ar ffurf grwpiau ffocws ar rannau o brosiect Wylfa Newydd rydyn ni’n gwybod sy’n flaenoriaeth i bobl leol, gan gynnwys y Gymraeg a chynlluniau ar gyfer llety i weithwyr. 

Bydd ail ymgynghoriad ar raddfa fwy yn cael ei gynnal yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn.

I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau ymgynghori cymunedol Horizon, ewch i www.horizonnuclearpower.com/Ymgynghori-Cymunedol. Os hoffech chi gysylltu, ffoniwch linell gymorth radffôn Wylfa Newydd ar 0800 954 9516 neu e-bostio ymholiadauwylfa@horizonnuclearpower.com. 

Dydd Gwener 29 Ionawr        Clwb Cymdeithasol a Chwaraeon Wylfa               11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Sadwrn 30 Ionawr         Neuadd y Dref Llangefni                                      10am i 1pm

Dydd Mawrth 2 Chwefror        Neuadd Bentref Llanfachraeth                             11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Mercher 3 Chwefror      Canolfan Ucheldre, Caergybi                                11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Gwener 5 Chwefror       Neuadd Goffa Amlwch                                          11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Sadwrn 6 Chwefror        Neuadd Bentref Cemaes                                      10am i 1pm

Dydd Mawrth 9 Chwefror        Valley Hotel                                                            11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Mercher 10 Chwefror     Canolfan Gymunedol Goffa'r Rhyfel Porthaethwy   11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Mercher 24 Chwefror      Gwesty'r Celtic Royal, Caernarfon                         11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Iau 25 Chwefror              Neuadd Eglwys St Mary’s, Conwy                         11am i 2pm a 4pm i 7pm

 

·         Edrychwch ar y wefan http://www.horizonnuclearpower.com/hafan

Rhannu |