Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ionawr 2016

Canolfan Saith Seren yn dathlu

Er mwyn dathlu pedwerydd penblwydd Saith Seren, Canolfan Gymraeg Wrecsam, bydd cyfres o ddigwyddiadau dros yr wythnos nesaf.

Yn eu plith bydd noson efo'r band gwerin bywiog Pentennyn, noson o farddoniaeth gan rhai o feirdd yr ardal, drama Dynes a Hanner yn ogystal â gŵyl gwrw go iawn. 

Mae'r cyfan yn bosib oherwydd cefnogaeth y gymuned a phobl o bob cwr o Gymru. Dros y blynyddoedd maent wedi cefnogi'r fenter a sicrhau fod tre' fwya'r Gogledd yn medru cynnig amrywiaeth eang o ddiwylliant Cymraeg.

Y bwriad yw cynnig cyfle i Gymry Cymraeg a dysgwyr ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol ac yn naturiol - yr union beth mae dysgwyr a'u tiwtoriaid yn ysu am wneud.

Mae cefnogaeth fisol yr aelodau wedi sefydlogi'r ganolfan yn ariannol ond mae croeso cynnes i aelodau newydd.

Am fanylion ein holl ddigwyddiadau a sut i ymaelodi yn y fenter gymunedol yma, ewch i www.saithseren.org.uk

 

Rhannu |