Mwy o Newyddion
Newyddion trychinebus i’r teuluoedd yr effeithir arnynt, ac i’r gymuned ddur
Wrth ymateb i’r cadarnhad y collir mwy na filoedd o swyddi yn safleoedd dur Tata ar draws y de, dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth AC: “Er bod y cyhoeddiad hwn i’w ddisgwyl, gwaetha’r modd, mae hyn yn newyddion trychinebus i’r teuluoedd dan sylw, ac i’r cymunedau ym Mhort Talbot, Llanwern a Llanelli.
“Bydd colli’r swyddi hyn yn cael effaith enfawr ar yr ardaloedd hyn, a’r her yn awr yw i Lywodraeth Cymru wneud popeth y gall i leihau’r effaith.
“Mae Plaid Cymru wedi gosod allan beth yr ydym am weld yn digwydd.
"Yn ychwanegol at gefnogaeth ar unwaith i’r rhai sy’n wynebu colli eu swyddi, rydym eisiau i Lywodraeth Cymru edrych fel mater o frys ar bob dewis i gefnogi’r diwydiant dur.
"Rhaid i hynny gynnwys ystyried a allai Llywodraeth Cymru gymryd cyfranddaliad dros dro yn y cwmni, mynd i gydbartneriaeth gyda Tata i helpu i amddiffyn gweithwyr a’r diwydiant hollbwysig hwn i’w helpu i oroesi’r amseroedd economaidd anodd hyn.
"Dylai hynny fod yn ychwanegol at geisio help ar ynni, trethi busnes a gweithredu ar lefel yr UE.
“Y mae dyfodol disglair i ddur yng Nghymru, ond mae angen help rhag blaen i’n cael drwy’r amseroedd anodd hyn.”
Dywedodd Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru: “Y flaenoriaeth yw’r gweithwyr dur hynny sy’n wynebu colli eu swyddi.
"O ystyried yr effaith gaiff colli’r swyddi hyn ar y teuluoedd hynny ac ar Bort Talbot, mae’n bwysig i’r gymuned wleidyddol ddod ynghyd i weithio er lles pawb a dod o hyd i atebion fydd yn helpu’r rhai sydd wedi dioddef, Dur Tata a’r diwydiant dur yng Nghymru.
“Rhaid i ni weithio’n unedig i ystyried ystod eang o atebion radical fydd yn asesu beth sydd yn digwydd mewn gwirionedd yn y diwydiant dur ac yn rhoi canlyniadau fydd yn effeithiol.
"Dros y Sul, cynigiodd Plaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru gymryd cyfranddaliad rhannol yng ngwaith dur Port Talbot.
"Ein hasesiad ni yw bod y cwymp hwn ym mhrisiau dur yn debyg o fod yn beth dros dro, a bod dur arbenigol, o’r math a wneir yng Ngwaith yr Abaty, yn debyg o wella eto yn y tymor canol.
“Mae arnom angen mesurau fydd yn gadael i’r safle oroesi’r storm economaidd hon a dod allan ohoni yn gryfach ac yn fwy parod at y dyfodol.
"Mae gan Lywodraeth Cymru hawl i gymryd y cam hwn ac efallai y gellir ei wneud ar y cyd â’r rhyddhad trethi busnes a roddwyd gerbron o’r blaen gan y Blaid ac a grybwyllwyd eto gan ffigyrau Llafur lleol dros y Sul.
“Nid rhyw ddychweliad yw hyn at gymorthdaliadau i ddiwydiannau trwm fel a gafwyd yn y 1960au a’r 70au. Nid dyna ydyw o gwbl.
"Petai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y safle, gallai fod yn y gwaith arloesol sy’n digwydd yno, neu’r gwaith ynni newydd sydd wedi ei gynnig, a hyd yn oed y gloddfa ddrifft ym Margam sydd wedi bod yn gymaint o destun trafod.
"Gallai Tata gael y dewis i brynu Llywodraeth Cymru allan yn nes ymlaen, fel y digwyddodd yn yr Almaen.
“Beth mae ar y safle angen yw dychymyg gwleidyddol a dewrder gwleidyddol.
"Rwyf wedi dweud o’r blaen nad wyf eisiau byw mewn Cymru nad yw’n gwneud dur bellach.
"Mae angen i ni ddod o hyd i atebion yma, yn y wlad hon, i ofalu na fydd hynny fyth yn digwydd.”