Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Ionawr 2016

Proton Partners yn dechrau gweithio ar Ganolfan Therapi Pelydr Proton Gynta’r DU

Gwelwyd cam sylweddol ymlaen heddiw yn y gwaith o greu canolfan therapi pelydr proton ar gyfer trin canser, y gyntaf o’i bath yn y DU, wrth i’r gwaith ddechrau’n swyddogol ar y safle.

Ymwelodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, â’r safle i nodi dechrau gwaith adeiladu’r ganolfan. Disgwylir i’r ganolfan fod ar agor erbyn 2017. 

Caiff y ganolfan ei lleoli ym Mharc Busnes Celtic Springs yng Nghasnewydd. Mae Proton Partners hefyd yn bwriadu adeiladu canolfannau yn Northumberland a Llundain a bydd modd i bob canolfan drin hyd at 700 o gleifion bob blwyddyn.

Cafodd buddsoddiad Proton Partners International – y mae ei bencadlys yng Nghymru – ei ategu gan Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, sef cronfa a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gaiff ei rheoli gan Arthurian Life Sciences.

Dywedodd Edwina Hart: “Dyma garreg filltir bwysig mewn buddsoddiad sylweddol gan Proton Partners er mwyn trawsnewid gofal canser o fewn y DU.

"Mae hefyd yn fuddsoddiad sylweddol yng Nghymru ac rwy’n falch iawn fod ein Cronfa Gwyddorau Bywyd wedi gallu chwarae rhan mor allweddol yn y gwaith o sefydlu’r busnes yng Nghymru.

"Mae’r Gronfa wedi helpu i sefydlu eu canolfan ragoriaeth ryngwladol gyntaf ac mae canolfan hyfforddiant cysylltiedig ar gyfer y DU yn cael ei sefydlu yng Nghasnewydd.

“O safbwynt economaidd, bydd yn codi proffil Cymru fel canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer gwyddorau bywyd a bydd yn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o safbwynt datblygiadau arloesol o fewn y sector. Bydd hefyd yn creu manteision economaidd hirdymor.”

Dywedodd Mike Moran, Prif Weithredwr Proton Partners International: “Mae heddiw’n nodi cam pwysig ymlaen o ran ein cynlluniau i wella gofal canser o fewn y DU ac rwy’n falch iawn fod Cymru ar flaen y gad. 

“Bydd ein canolfannau’n cynnig therapi pelydr proton, delweddu, radiotherapi a chemotherap – gan gynnig lefel gynhwysfawr a chyflawn o ofal canser sydd wedi’i deilwra i wahanol anghenion cleifion unigol. Yn ddiweddarach eleni bydd ein canolfan yng Nghasnewydd yn gallu dechrau trin cleifion â radiotherapi traddodiadol, a bydd therapi pelydr proton ar gael yn 2017. 

“Rydym yn anelu at gyflawni llawer iawn mwy na dim ond cynnig triniaethau o’r radd flaenaf. Ein nod yw sefydlu oes newydd o ddarpariaeth ym maes gofal canser ac ysgogi gwelliannau o fewn y DU.”

Mae therapi pelydr proton wedi cael ei ddefnyddio ar draws y byd ac wedi cyflawni canlyniadau arbennig ar gyfer cleifion, ac yn arbennig o ran lleihau unrhyw sgil-effeithiau. Nid oes unrhyw gyfleusterau o fewn y DU a all gynnig therapi pelydr proton ar hyn o bryd ac mae’r galw am ofal canser mwy arbenigol yn cynyddu. 

Mae Proton Partners yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gyflwyno therapi pelydr proton yn y DU ac maent yn cydweithio â darparwyr o’r radd flaenaf a fydd yn sicrhau bod gan y canolfannau newydd y cyfarpar gorau posibl.

Er mwyn dangos y cysylltiadau rhwng chwaraeon a llesiant cafodd cerflun o’r Farwnes Kelly Holmes ei ddadorchuddio yn nigwyddiad heddiw ac roedd tîm ITF Wales  Taekwon-Do (Ffederasiwn Rhyngwladol Taekwondo) hefyd yn bresennol.

Llun:  Tîm Proton Partnersyn torri'r dywarchen gydag Edwina Hart

Rhannu |