Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Ionawr 2016

Effaith toriadau ariannol ar y diwydiant cyhoeddi

Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd toriad o 10.6% yng nghyllideb blynyddol Cyngor Llyfrau Cymru mynegodd y Cadeirydd, yr Athro M. Wynn Thomas, ei fod yn poeni yn ddirfawr am yr effaith ar y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn y ddwy iaith ac ar y modd y bydd y sector yn gallu ymateb i ddisgwyliadau carfanau gwahanol o ddarllenwyr.

Meddai: “Mae’r Cyngor, yn ystod y degawd diwethaf, wedi datblygu i fod yn gorff dwyieithog amlweddog sydd yn un mor allweddol i ddiwydiant llyfrau y Gymru ddi-Gymraeg ag yw i fyd llyfrau y Gymru Gymraeg.

"Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru mae’r diwydiant cyhoeddi wedi ymgyrraedd at gymunedau o ddarllenwyr ar draws ffiniau cymdeithasol a daearyddol Cymru.

"Y mae wedi ategu llyfrau print gydag e-lyfrau, sicrhau twf yn y diddordeb mewn llyfrau o Gymru, wedi meithrin awduron a chefnogi rhwydwaith o fusnesau ffyniannus, yn gyhoeddwyr ac yn llyfrwerthwyr.

"Y mae llyfrau o Gymru hefyd yn asgwrn cefn i’r sector addysg a’r llyfrgelloedd fel ei gilydd. Rwy’n ofni nawr y gall y cyfan hyn fod yn y fantol.”

Mae’r Cyngor Llyfrau ar hyn o bryd yn cefnogi 300 o gyhoeddiadau yn flynyddol, oddeutu 200 yn Gymraeg a hyd at 100 yn Saesneg. Maent hefyd yn cefnogi nifer o gylchgronau amrywiol yn y ddwy iaith.

Yn anorfod, bydd lleihad yn y nifer o lyfrau a gyhoeddir yn sgil y toriad ariannol arfaethedig gan effeithio’n sylweddol ar gyrhaeddiad llyfrau o Gymru.

Yn ei dro, bydd cyhoeddi llai o lyfrau yn effeithio ar nifer y staff y bydd y cyhoeddwyr yn gallu eu cynnal ym maes golygu a dylunio gan effeithio hefyd ar gynhaliaeth awduron. Bydd y Cyngor Llyfrau eu hunain hefyd yn asesu eu gwaith a’u cynlluniau i’r dyfodol.

“Fy mhryder mawr, yn wyneb y cyhoeddiad diweddar, yw y gwelir rhai o’r trefniadau a’r cyfundrefnau allweddol hynny a ddatblygwyd yn y blynyddoedd diwethaf, ac sy bellach yn hanfodol i gynnal diwydiant cyhoeddi ffyniannus ac arloesol, yn araf grebachu,” ychwanegodd yr Athro Thomas.

“Bydd y Cyngor fel sefydliad yn parhau i weithio’n egnïol i ganfod ffynonellau ariannol eraill wrth sylweddoli pwysigrwydd ein gwaith craidd o hyrwyddo’r diwydiant cyhoeddi yn y ddwy iaith er lles Cymru gyfan.”

Llun: Yr Athro M. Wynn Thomas

Rhannu |