Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Ionawr 2016

Leanne Wood: Llawer mwy y gallai – ac y dylai Llywodraeth Cymru – wneud ar yr argyfwng dur

Mae Plaid Cymru wedi amlinellu’r angen brys i’r llywodraeth Lafur yng Nghymru weithredu i amddiffyn y diwydiant dur. Ail-bwysleisiodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood alwadau ei phlaid am sefydlu tasglu brys i ystyried yr holl bosibiliadau ar gyfer amddiffyn y diwydiant pwysig.

Dywedodd Leanne Wood y gallai hyn olygu rhan-wladoli’r diwydiant.

Daw sylwadau Leanne Wood adeg adroddiadau fod Tata yn bwriadu torri 1,000 o swyddi ym Mhort Talbot – y diweddaraf mewn cyfres o swyddi i’w colli yn y diwydiant dur ar draws y DG.

Mae arweinydd Llafur yn y DG cyn hyn wedi galw am i lywodraeth y DG ran-wladoli’r diwydiant dur, ond mae Prif Weinidog Llafur yng Nghymru heddiw wedi gwrthod ystyried y syniad.

Meddai Leanne Wood: “Mae Plaid Cymru eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn sefydlu tasglu i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i amddiffyn y swyddi yn ein diwydiant dur. Mae’n rhan hanfodol o economi Cymru, ac y mae’r diwydiant yn rhoi miloedd o swyddi gyda sgiliau uchel sy’n talu’n dda.

“Mae gan y llywodraeth ddyletswydd i amddiffyn economi Cymru, ac i amddiffyn diwydiant, ac fe ddylid ystyried pob dewis wrth i ni geisio gwneud hynny.

"Gallai Llywodraeth Cymru wladoli rhannau o’r diwydiant dros dro i amddiffyn gweithwyr.

"Mae rhai yn rhengoedd uchaf y blaid Lafur wedi lleisio syniadau tebyg i gynllun Plaid Cymru ar gyfer rhan-wladoli, ond eto yng Nghymru, wfftiodd y Prif Weinidog y syniad heb hyd yn oed ei ystyried.

"Gwrthododd ystyried y fath ddewis, ond y cyfan yr ydym ni’n ddweud yw y dylid ei ystyried: mae’n well ganddo efo roi’r bai ar eraill. Mae gweithwyr dur Cymru yn haeddu gwell amddiffyniad na hynny.

“Mae’r gallu gan Lywodraeth Cymru i weithredu, ond mae’n dewis peidio gwneud hynny. Fydd nhyn ddim yn gysur o gwbl i’r miloedd o weithwyr dur ar draws Cymru sy’n wynebu’r posibilrwydd o golli eu swyddi pan fydd Tata yn gwneud eu cyhoeddiad yn nes ymlaen yr wythnos hon.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i bwyso am weithredu, ac yn manteisio ar bob cyfle i amddiffyn y diwydiant a’i weithwyr.”

Rhannu |