Mwy o Newyddion
Datblygu Ysbyty Glan Clwyd
Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, y cynlluniau cychwynnol ar gyfer rhaglen fawr i ailddatblygu Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron i £77 miliwn ar gyfer y datblygiad.
Mae'r ysbyty eisoes wedi elwa ar £6.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gael gwared ag asbestos a chyflwyno mesurau diogelwch tân.
Adeg adeiladu'r ysbyty ar ddiwedd y 1970au roedd asbestos yn arfer cael ei ddefnyddio'n rheolaidd fel caenen wrthdan ar gyfer adeiladwaith dur. Erbyn heddiw, mae cyflwr y gaenen hon yn dirywio, sy'n golygu bod cyfyngiadau ar fynediad at wagleoedd yn y nenfwd a bod mwy o berygl o halogi'r mannau oddi tanynt.
Nod cynlluniau newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – sy'n rhedeg Ysbyty Glan Clwyd – yw sicrhau bod yr ysbyty'n bodloni'r safonau tân ac iechyd a diogelwch diweddaraf. Mae'r cynlluniau hefyd yn gyfle i ailfodelu'r ysbyty er mwyn cyfuno gwasanaethau a gynigir ar draws y safle ar hyn o bryd a helpu i roi gofal clinigol o ansawdd uchel.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn datblygu'i gynigion ymhellach yn yr Achos Busnes Amlinellol.
Meddai Ms Griffiths: "Mae Ysbyty Glan Clwyd yn allweddol i ddarparu gwasanaethau iechyd yn y Gogledd. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau gofal llawer gwell i gleifion ac amgylchedd gwaith llawer gwell i staff.
“Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi arian yn y gwasanaeth iechyd ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf – er gwaethaf effaith toriadau Llywodraeth y DU ar gyllideb Cymru."
Ychwanegodd yr Athro Merfyn Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydyn ni wrth ein bodd bod y Gweinidog wedi cymeradwyo'r datblygiadau hyn. Dyma gyfle cyffrous unigryw i ni wneud gwelliannau gwych i ofal cleifion yn ysbyty Glan Clwyd. Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i ailddatblygu a gwella'r ysbyty er mwyn i'n staff allu parhau i gyrraedd safonau uchel mewn cyfleusterau gofal iechyd modern."