Mwy o Newyddion
Elin Jones yn cwrdd â phennaeth newydd BT i drafod band llydan cyflym yng Ngheredigion
Mae AC lleol Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones, wedi cwrdd â chyfarwyddwraig newydd BT yng Nghymru, Alwen Williams, ynghyd â phennaeth y cynllun Superfast Ed Hunt, i drafod arafwch y gwaith o ran cyflwyno band llydan ffibr yn y sir.
O dan gynllun Cyflymu Cymru, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, mae BT o dan gontract i ddarparu band llydan ffibr i 95% o Gymru erbyn canol 2016, gyda mwy i ddilyn yn 2017. Ond y ffigwr cyfredol yw fod ychydig dros 50% o gartrefi Ceredigion yn medru cael mynediad i’r dechnoleg.
Yn y cyfarfod, a gynhaliwyd ar Ddydd Llun, 11 Ionawr, cododd yr AC lleol Elin Jones yr oedi sydd wedi bod wrth gysylltu rhai rhannau o Geredigion, a phwysodd am yr angen dybryd am wybodaeth gywir i drigolion ar bryd y bydd band llydan gwell ar gael.
Meddai; “Rwy’ wedi fy siomi’n ddirfawr gan arafwch cynllun Cyflymu Cymru i gyrraedd sawl rhan o Geredigion, a chodais y problemau sydd wedi bod yng Nghwm-Cou, Llanfihangel y Creuddyn, Llanwnnen a mannau eraill oedd yn disgwyl y byddai ganddynt gysylltiad erbyn hyn.
"Tra mod i’n deall fod rhai ardaloedd yn anos i’w cyrraedd, byddai’n annerbyniol petai ardaloedd trefol a gwledig yn cael eu trin yn wahanol o dan y cynllun cyhoeddus hwn.
“Ar ddechrau 2016 – blwyddyn ola’r cynllun gwreiddiol – dim ond tua 51% o gartrefi Ceredigion sy’n gallu archebu band llydan cyflym, sy’n siomedig iawn.
“Ond esboniodd BT y byddai rhannau helaeth o Geredigion yn derbyn gwasanaeth ‘Ffibr i’r Cartref’ yn hytrach na darparu ffibr i’r cabinet ac yna dibynnu ar hen wifrau copr ar gyfer y pellter olaf i’r ty neu’r busnes.
"Mae’r dechnoleg yma yn cymryd yn hirach i’w adeiladu, ond yn y diwedd bydd yn darparu cysylltiad mwy cyflym a dibynadwy. Bydd dros 11,000 o gartrefi yn y sir yn derbyn cysylltiad yn y modd yma.
“Mae peth cynnydd, gyda ffibr nawr ar gael mewn rhannau o Lanfarian, a Rhydlewis a Llangrannog i ddilyn cyn hir. Ac roedd yn ryddhad i glywed y byddai 90-95% o Geredigion yn medru cael mynediad i’r dechnoleg newydd yn nes mlaen yn 2017.
“Mae’n hanfodol ar gyfer dyfodol economi Ceredigion fod y rhaglen hwn yn gwireddu ei amcanion. Byddaf yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn agos."