Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Ionawr 2016

Pennaeth Marchnata Newydd i’r Lolfa

Mae Fflur Arwel newydd gymryd yr awenau fel Pennaeth Marchnata Gwasg Y Lolfa.

Gobaith Fflur, sy’n wreiddiol o Dinas, ger Caernarfon, yw cynyddu gwerthiant llyfrau’r Lolfa a chael mwy o sylw i lyfrau’r wasg yn y cyfryngau ac ar-lein.

Mae Fflur newydd raddio gyda Gradd MA o Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, lle astudiodd Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.

Fel rhan o’i gradd ysgrifennodd draethawd hir ar gymhellion gwleidyddol gwasg Y Lolfa.

Dywedodd Fflur: “Mae’n bleser mawr gen i ymuno a thîm arbennig gwasg Y Lolfa.

"Mae hi’n gyfnod eithriadol o heriol i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru wedi i Lywodraeth Cymru ddatgan 10.6% o doriad yng nghyllideb Cyngor Llyfrau Cymru.

"Rwyf yn edrych ymlaen i barhau i hyrwyddo a hybu llyfrau beiddgar a blaengar yn y Gymraeg a Saesneg a gyhoeddir gan Y Lolfa gan barhau gyda chenhadaeth a gweledigaeth Y Lolfa er ei sefydlu o gynhyrchu a chefnogi deunydd gwreiddiol, cyffrous a heriol Cymraeg a Chymreig.”

Ychwanegodd Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa: “Mae’r byd cyhoeddi ac arferion darllen pobl yn newid yn gyflym.

"Mae gan Fflur syniadau gwych ar sut allwn ni ddatblygu fel gwasg a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd drwy fanteisio ar y cyfleoedd mae technolegau newydd yn eu cynnig. Bydd yn gaffaeliad mawr i’r cwmni.” 

Rhannu |