Mwy o Newyddion
Cwmnïau darlledu annibynnol i roi tystiolaeth
Mi fydd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn cynnal sesiwn tystiolaeth ffurfiol yng Nghaernarfon Ddydd Llun 18 Ionawr fel rhan o’r ymchwiliad i ddarlledu yng Nghymru.
Mi fydd y pwyllgor yn clywed wrth gynrychiolwyr rhai o gwmnïau annibynnol llwyddiannus Cymru.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies: “Mae wastad yn gyffrous gallu ymweld ag ardaloedd sy’n datblygu diwydiant creadigol llwyddiannus.
Mi fydd y Pwyllgor yn clywed sut mae Caernarfon a Gogledd Cymru yn cyfrannu at y diwydiant darlledu a beth fedr ei wneud i’w cefnogi.
“Mi fyddwn ni hefyd yn ystyried eu barn ar ddyfodol rhaglenni Cymraeg, rhywbeth sydd wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad a hyrwyddo diwylliant Cymreig, ond sy’n wynebu dyfodol ariannol ansicr.
“Mi fyddwn yn cynnal gwrandawiad cyhoeddus yn Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon ac yn clywed wrth Antena, Rondo Media, Boom Cymru a Cwmni Da.
"Rwy’n annog unrhywun sydd â diddordeb yn y cyfryngau creadigol, neu’r broses wleidyddol ei hunan, i ymuno â ni yno.”
Manylion y gwrandawiad
Mi fydd y sesiwn yn dechrau am 10yb yn Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SQ ac yn agored i’r cyhoedd.