Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Ionawr 2016

Bargen deg i helpu i oresgyn heriau bywyd gwledig

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Wasanaethau Cyhoeddus Simon Thomas wedi galw am fargen gyllido decach i helpu awdurdodau lleol mewn ardaloedd gwledig i gwrdd â’r galwadau cynyddol fydd arnynt.

Dadleuodd Simon Thomas fod awdurdodau lleol mewn ardaloedd gwledig yn wynebu pwysau ychwanegol, megis rhwystrau i fynd at wasanaethau, a thai o ansawdd salach.

Dywedodd  y gallai cyllid ychwanegol i gynghorau gwledig helpu awdurdodau lleol i gyflwyno gwasanaethau a chynnig bargen decach i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

Meddai: “Mae setliad y Llywodraeth Lafur i awdurdodau lleol yn wael yn gyffredinol.

"Fodd bynnag, mae’n arbennig o wael i awdurdodau lleol gwledig, sy’n wynebu toriadau llymach o du’r llywodraeth Lafur hon ac sy’n gorfod ymestyn eu harian i fynd yn bellach er mwyn ymdopi â phwysau ychwanegol.

“Os yw Llafur eisiau cymeradwyaeth y Cynulliad i’r setliad hwn, rhaid iddynt roi rhyddhad i awdurdodau gwledig sydd yn wynebu toriadau sydd yn llym a dweud y lleiaf.

“Mae poblogaeth wasgaredig, mwy o rwystrau i gyrchu gwasanaethau a stoc dai sy’n waeth yn golygu fod cynghorau mewn ardaloedd gwledig yn wynebu mwy o wasgu ar eu cyllidebau.

“Gall y Grant Sefydlogi Gwledig wneud y maes chwarae yn fwy gwastad, gan roi i awdurdodau lleol yr ardaloedd gwledig hyn fymryn mwy o arian i oresgyn yr her.

“Dylai’r llywodraeth Lafur weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud yr hyn a fedr i leihau’r baich annheg ar awdurdodau gwledig a chyflwyno Grant Sefydlogi Gwledig i gadw’r maes chwarae yn wastad i ardaloedd gwledig a threfol.”

Rhannu |