Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Ionawr 2016

Beca’r Becws yn picio heibio

Mae pobydd teledu poblogaidd wedi dweud sut y gwnaeth ymddangos ar y Great British Bake Off a dod i adnabod Paul Hollywood newid ei bywyd.

Roedd Beca Lyne-Pirkis, 34 oed, yn siarad yn ystod ymweliad â’r Village Bakery sy’n noddi Becws, rhaglen pobi Beca ar S4C.

Cafodd Beca ei thywys o gwmpas Academi Pobi a Chanolfan Arloesi newydd y Village Bakery yn ogystal â becws y cwmni ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, gan y rheolwr gyfarwyddwr Robin Jones.

Mi wnaeth y fam i ddau o blant o Gaerdydd gyrraedd rownd gyn-derfynol Bake Off yn 2013 lle cafwyd “siarad plaen” rhyngddi hi a Paul Hollywood.

Ei theulu fu’n gyfrifol am berswadio Beca i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a bu ei hymddangosiadau yn llwyddiant ysgubol gan ddenu sylw cynhyrchwyr teledu yn ôl yma yng Nghymru.

Mae Beca bellach yn edrych ymlaen eleni at drydedd cyfres Becws - ac fe ddigwyddodd hyn i gyd oherwydd y Great British Bake Off.

Meddai: “Pan es i ar y Great British Bake Off mi wnes i aros yn ffyddlon i fy arddull pobi, sydd i raddau helaeth yn gymysgedd o’r traddodiadol a’r arbrofol.

“Mae’n debyg mai cymryd rhan oedd un o’r profiadau gorau i mi eu cael erioed. Mi wnaeth gymryd drosodd fy mywyd yn llwyr.

“Mae cael beirniadaeth yn brifo, ond barn un person yw hynny. Mi wnaf i wrando ar feirniadaeth a sylwadau ond rwyf bob amser yn hoffi rhoi fy rhesymau dros wneud rhywbeth a beth oedd y dylanwadau arnaf.

“Mae gan Paul Hollywood farn eithaf cryf ac rwyf innau’n berson tebyg. Rydym yn dod ymlaen yn dda iawn. Rwyf wedi ei weld ychydig o weithiau ers hynny ac rwy’n credu ei fod yn eithaf hoffi’r ffaith fy mod i’n berson di-flewyn-ar-dafod.

“Roedd yn straen, ond rwy’n ffynnu mewn sefyllfa o’r fath. Rwy’n berson cystadleuol tu hwnt.

“Roedd yn brofiad anhygoel yn enwedig pan gafodd y rhaglen ei darlledu. Mae wedi drawsnewid fy mywyd.

“Wnes i erioed weithio mor galed yn fy mywyd, ond fyddwn i ddim yn ei newid am y byd.”

Yn ôl Beca, y Village Bakery oedd y noddwyr delfrydol ar gyfer rhaglen Becws sy’n cael ei chynhrchu ar gyfer S4C gan Cwmni Da o Gaernarfon.

Dywed Beca, y cafodd ei chariad at bobi ei annog gan ei theulu, ei bod yn bwysig iawn dod o hyd i'r noddwr cywir.

Dywedodd: “Mae’n rhaid i chi fod yn ofalus ac mae hynny’n rhywbeth y gwnaethom ei drafod. Felly mi wnes i ymchwilio i’r Village Bakery a blasu eu cynnyrch, ac mi gefais argraff dda iawn.

“A heddiw cefais fy nghroesawu yma fel hen ffrind, oedd yn brofiad hyfryd.

“Mae Alan, tad Robin a chadeirydd y cwmni, yn dweud ei fod wrth ei fodd yn gwylio’r rhaglen. Mae’n hyfryd clywed bod siaradwyr di-Gymraeg wrth eu bodd gyda’r pethau rwy’n eu gwneud, ac maen nhw hefyd yn falch iawn o’r cysylltiad ac mae hynny’n wych.

“Roedden nhw am fy ngweld a dangos y dewis enfawr o gynnyrch gwahanol sy’n cael eu gwneud yma. Mae wedi bod yn wych.

“Iddyn nhw, y peth sy’n dod yn gyntaf yw gwneud yn siŵr eu bod yn cadw eu henw da a bod ansawdd y cynnyrch yn parhau’n uchel, a gallwch weld hynny’n glir yn angerdd Robin.

“Er eu bod yn cynhyrchu mewn swmp, mae’r cwmni’n gwneud yn siŵr bod yr ansawdd yn uchel ar bob cam o’r  broses gynhyrchu, fel bod y cynnyrch terfynol y mae pobl yn ei brynu oddi ar y silff yr hyn y maen nhw’n ei ddisgwyl.

“Ac o’r hyn rwyf wedi ei weld a’i glywed heddiw maen nhw’n mynd o nerth i nerth.”

Mae Beca’n edrych ymlaen yn eiddgar at y gyfres nesaf ar ôl mwynhau cyflwyno rhaglen deledu yn fawr iawn.

Ychwanegodd: “Roeddwn yn hynod o nerfus ar y dechrau er fy mod yn dod o gefndir yn y cyfryngau. Roedd fy rhieni yn gweithio ym myd teledu, er mai tu ôl i’r camera oedd hynny, ac roeddwn bob amser yn eu helpu drwy wneud gwaith y rhedwyr.

“Roedd yn wahanol bod o flaen y camera, ond oherwydd fy mod yn siarad am rywbeth roeddwn yn gwybod tu chwith allan, rhoddodd hynny yr hyder i mi feddwl mai’r camera oedd fy ffrind gorau, a'r cyfan ydyw yw dweud wrth bobl beth rwy’n ei wneud.”

Roedd Robin Jones yn falch iawn o groesawu Beca i’r Village Bakery.

Meddai: “Mae wedi bod yn bleser go iawn dangos i Beca beth rydym yn ei wneud yma a sut rydym yn cadw at ein gwerthoedd craidd fel pobyddion crefftus.

“Cwmni teuluol yw’r Village Bakery i raddau mawr iawn, ac yn y bôn rydym yn parhau i fod yn deulu o bobyddion.”

Llun: Seren rhaglenni Becws a’r Great British Bake Off, Beca Lyne-Pirkis yn ymweld â’r Village Bakery yn Wrecsam. Yn y llun mae Robin Jones Rheolwr Gyfarwyddwr y Village Bakery gyda seren Becws, Beca Lyne-Pirkis yn cael eu gwylio gan Daryl Stephenson.

Rhannu |