Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Ionawr 2016

Plaid Cymru yn gwrthwynebu “statws eilradd” Mesur Cymru

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod yn rhaid iddo wella Mesur Cymru yn sylweddol os yw am roi i Gymru y setliad sydd ei angen.

Wrth drafod argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn eu hadroddiad ar Fesur Cymru, croesawodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood y ffaith fod y pwyllgor wedi cytuno â llawer o safbwyntiau Plaid Cymru ar y Mesur.

Dywedodd fod y problemau gyda’r Mesur yn cynnwys diffyg awdurdodaeth gyfreithiol; fod gormod o faterion wedi eu cadw’n ôl; mater cydsyniadau’r goron; a mater “profion angenrheidrwydd” a ddehonglwyd fel feto posib.

Dywedodd Leanne Wood: “Mae gan Blaid Cymru lawer o bryderon am Fesur Cymru, ac yr wyf wedi datgan yn glir wrth yr Ysgrifennydd Gwladol na allwn ei gefnogi ar ei ffurf bresennol.

“Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dweud yn glir fod angen cryfhau’r Mesur hwn yn sylweddol cyn iddo gael cefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

"Rwy’n falch fod aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol o bob plaid wedi siarad ag un llais heddiw ac wedi gwrthod Mesur Cymru annigonol Llywodraeth y DG.

“Mater i Lywodraeth y DG yn awr yw rhoi i Gymru y setliad mae’n haeddu.

"Bydd Plaid Cymru yn cynnig y dylai’r Cynulliad barhau i flocio unrhyw fesur drafft sy’n trin Cymru yn eilradd o gymharu â’r gwledydd datganoledig eraill.”

Rhannu |