Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Ionawr 2016

Heddluoedd yn boddi gan droseddau ar y cyfryngau cymdeithasol medd AS Plaid Cymru

Mae Llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Cartref a Chyfiawnder, Liz Saville Roberts AS wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys i sicrhau fod heddluoedd ledled Cymru yn cael digon o adnoddau a chapasiti i ddelio â throseddau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd yr AS dros Ddwyfor Meirionnydd fod heddluoedd ar fin cael eu 'llethu' gydag adroddiadau cynyddol o fwlio ar-lein, troseddau seibr a throseddau sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â chyfryngau cymdeithasol.

Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datgelu cynnydd saith-gwaith yn y nifer o droseddau sy'n cael eu cyflawni yng Nghymru a Lloegr lle mae cyfryngau cymdeithasol yn cael ei nodi fel ffactor gyfrannol. Roedd y troseddau a adroddwyd yn cynnwys treisio, meithrin perthynas amhriodol ac ymgais i lofruddio.

Wrth gwestiynu Gweinidogion y Swyddfa Gartref, galwodd Liz Saville Roberts AS ar y Llywodraeth i sicrhau bod holl swyddogion yr heddlu yng Nghymru yn cael eu darparu gyda digon o gapasiti i wneud asesiadau risg o droseddau ar-lein fel bod modd blaenoriaethau achosion yn briodol.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae yna angen dybryd ar yr heddlu am ddulliau or unfed ganrif ar hugain i ddelio â throseddau or unfed ganrif ar hugain.

"Mae poblogrwydd cynyddol y cyfryngau cymdeithasol a rhwyddineb unigolion i fanteisio ar bobl fregus yn gwneud llwyfannau digidol yn gyfrwng i ledaenu cam-driniaeth.

“Mae’r Prif Gwnstabl sy’n arwain ar droseddau digidol ynghyd â phennaeth y Coleg Plismona wedi mynegi pryderon fod yr heddlu ar fin cael eu llethu, gydag adroddiadau o gam-drin ar-lein trwy’r cyfryngau cymdeithasol fel facebook, ar gynnydd.

“Roedd gen i etholwraig lle cafodd ei merch un ar ddeg oed ei hudo dros y cyfryngau digidol gan rywun yn esgus mai plentyn yr oedd. Daeth i wybod am y digwyddiad pan ddaeth ei mab yn amheus o'r iaith a’i ddefnyddiwyd gan synhwyro fod rhywbeth o'i le.  

"Mae hyn yn arwydd o broblem ehangach; yn aml nid yw rhieni yn gyfarwydd â’r newid cyflym yn y cyfryngau cymdeithasol, ac i fod yn onest, nid yw llawer o'r heddlu chwaith.

“Mae'r sefydliad Kick Racism out of Football yn adrodd fod 130,000 o achosion o gam-drin hiliol wedi ei gyflawni trwy’r cyfryngau cymdeithasol yn 2014/15.

“Mae angen i'r Llywodraeth gymryd camau brys i sicrhau fod holl swyddogion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael eu darparu gyda adnoddau digonol a hyfforddiant priodol i asesu adroddiadau o gam-drin ar-lein a blaenoriaethu'r achosion mwyaf difrifol."

Rhannu |