Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2011

Angen pleidleisiau

Mae saith prosiect rhyfeddol o Gymru angen eich pleidlais, wrth iddynt fynd benben â phrosiectau eraill a ariennir gan y Loteri Genedlaethol o bob cwr o'r DU yn rowndiau cynderfynol Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2011. Mae'r Gwobrau yn cydnabod y gwahaniaeth y mae prosiectau a ariennir gan y Loteri - boed yn fawr neu'n fach - yn ei wneud i gymunedau lleol.

 

Mae’r prosiectau hyn sydd wedi cyrraedd y rownd gynderfynol wedi cyrraedd y rhestr fer am y gwahaniaeth mawr y maen nhw wedi’i wneud gydag arian y Loteri, ac anogwn bobl ar draws Cymru i fwrw eu pleidlais, o Ddydd Mawrth 31 Mai, i'w helpu i gyrraedd y rownd derfynol.

 

Y saith prosiect o Gymru sydd wedi cyrraedd y rownd gynderfynol yw:

o The Boatyard Music and Film Studio, Sir Benfro - yn cystadlu am y Prosiect Celfyddydau Gorau

o The Green Valley Centre, Cwm Cynon - yn cystadlu am y Prosiect Amgylcheddol Gorau

o Hands on Creative Recycling, Powys - yn cystadlu am y Prosiect Amgylcheddol Gorau

o The Sol Cinema, Abertawe - yn cystadlu am y Prosiect Amgylcheddol Gorau

o KIM (Kindness in Mind), Yr Wyddgrug - yn cystadlu am y Prosiect Iechyd Gorau

o Fareshare Gogledd Cymru, Cyffordd Llandudno - yn cystadlu am y Prosiect Gwirfoddol/Elusennol Gorau

o Promoting Independence Through Neighbourliness, Castell-nedd - yn cystadlu am y Prosiect Gwirfoddol/Elusennol Gorau

 

Mae saith categori i'r Gwobrau gyda phob un yn adlewyrchu prif feysydd ariannu’r Loteri: y celfyddydau; chwaraeon; treftadaeth; iechyd; amgylcheddol, addysg (mewn cydweithrediad â chylchgrawn Best), elusennol a gwirfoddol. Bydd y prosiect buddugol ym mhob categori yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol mewn digwyddiad yn llawn enwogion yn ddiweddarach eleni, a ddarlledir ar BBC One, ynghyd â gwobr ariannol o £2,000 i'w wario ar eu prosiect.

 

Cefnogir Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni gan gyflwynydd y rhaglen Lottery Draw Show, Jenni Falconer. Dywed: “Rwyf wrth fy modd â Gwobrau’r Loteri Genedlaethol gan eu bod yn talu teyrnged i'r holl arwyr tawel, y gwirfoddolwyr anhunanol a’r gweithwyr ymrwymedig ar draws y DU sy’n defnyddio arian y Loteri i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, lleoedd a chymunedau lleol.


“Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi swm anferth o £28 miliwn yr wythnos dros elusennau a grwpiau - boed yn fawr neu’n fach - ar draws y DU. Dylai bawb sy’n chwarae’r Loteri deimlo’n falch eu bod wedi helpu amrywiaeth mor eang o brosiectau - gan gynnwys grwpiau celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a chymunedol - yn llythrennol mae rhywbeth ar gael i bawb.


“Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud a phleidleisio dros eich ffefryn. Cefnogwch eich prosiectau lleol a phleidleisiwch er mwyn iddynt gyrraedd y rownd derfynol - mae pob pleidlais yn cyfrif!”

 

Bydd modd pleidleisio yn y rownd gynderfynol o 9am Ddydd Mawrth 31 Mai ac fe ddaw i ben hanner dydd, dydd Llun 20 Mehefin. Peidiwch â ffonio cyn i'r llinellau agor gan na fydd eich pleidlais yn cyfrif ond bydd yn rhaid i chi dalu am yr alwad. Am ragor o wybodaeth neu i fwrw’ch pleidlais dros unrhyw un o’r prosiectau yn y rownd gynderfynol ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk/awards.

Rhannu |