Mwy o Newyddion
Canu’r gloch ar ladron pyrsiau
MAE dyfais ddyfeisgar er mwyn ceisio stopio lladron pyrsiau wedi’i chanmol gan Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu.
Mae Heddluoedd ledled y DU bellach yn dangos diddordeb yn y ddyfais syml sydd â dwy gloch fach arni ac sy’n cael ei chysylltu i byrsiau siopwyr.
Cafodd y ddyfais ei dyfeisio gan Sarah Curry sy’n Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu yn Landudno, ac sydd â dros 10 mlynedd o wasanaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn dilyn cyfres o achosion o ddwyn pyrsiau yn y dref.
Roedd y system clychau pwrs i’w gweld mewn siop yng Nghanolfan Siopa Fictoria lle’r oedd yr heddlu ac asiantaethau partner yn arddangos mesurau atal trosedd a diogelwch.
Ymysg yr ymwelwyr â’r siop roedd y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Julian Sandham, a ddisgrifiodd y clychau pwrs fel syniad “ysbrydoledig”.
Eglurodd Sarah: “Nid yw dwyn pyrsiau o fagiau neu bocedi cotiau yn broblem mor fawr â hynny yng Ngogledd Cymru. Anaml iawn fydd hyn yn digwydd.
“Ond, ychydig flynyddoedd yn ôl fe gawsom gyfres o achosion o ddwyn pyrsiau ac roeddwn yn meddwl beth allem ei wneud er mwyn atal hyn rhag digwydd. Meddyliais am y syniad o gael cloch ysgafn, eithaf uchel, y gellid ei rhoi ar bwrs.
“Mae’r clychau wedi profi’n llwyddiannus ac yn boblogaidd iawn a gofynnir i ni’n aml os oes gennym rai sbâr y gallwn eu rhoi i’r cyhoedd. Rydw i’n aml iawn yn cael twristiaid yn gofyn i mi os oes gen i rai y gallant fynd adref gyda nhw.
“I fod yn onest, efallai y dylem fod wedi mynd â’r syniad at ‘Dragon’s Den’! Fodd bynnag, rydw i’n falch bod y syniad yn gweithio ac yn profi’n boblogaidd gyda siopwyr a thrigolion Llandudno.
“Os yw’n helpu i atal trosedd ac yn gwneud pobl deimlo’n ddiogelach, rydym wedi gwneud ein gwaith a dyna sy’n bwysig.
Meddai Mr Sandham: “Mae’r syniad yma wedi creu argraff fawr arnaf. Mae’r syniad hwn y mae SCCH Curry wedi’i gael er mwyn atal achosion o ddwyn pyrsiau yn syml ond yn rhagorol ac mae’n amlwg yn rhywbeth y mae’r cyhoedd yn ei hoffi.
“Mae’n syniad gwerth chweil hyd yn oed os yw’n helpu i atal dim ond un pwrs rhag cael ei ddwyn. Mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i’r cyhoedd bod yr heddlu ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn trosedd.
“Mae’n anhygoel bod pobl sy’n ymweld â’r ardal eto, sy’n ymwybodol o’r clychau, yn gofyn amdanynt. Mae hynny’n dangos bod gan y cyhoedd hyder yn y syniad syml ond effeithiol hwn.”
Roedd clychau pwrs Sarah Curry yn ddim ond un o nifer o fesurau atal trosedd a mesurau diogelwch a oedd yn cael eu harddangos yn y siop lle’r oedd gan Warchod y Gymdogaeth, Safonau Masnach Conwy a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru stondinau yn rhoi cyngor ac arweiniad.
Ychwanegodd Mr Sandham: “Yn wir, mae cyfoeth o gymorth ymarferol ar gael a fydd yn elwa ac yn helpu i addysgu’r cyhoedd ar faterion atal trosedd.
“Yr hyn sy’n dda yw bod gennym negeseuon atal trosedd modern mewn perthynas â phethau fel troseddau seiber a chadw’n ddiogel ar-lein ochr yn ochr â phethau traddodiadol fel atal byrgleriaethau a lladradau.
“Mae’r gymysgedd o negeseuon atal trosedd modern a thraddodiadol yn hanfodol. Rydw i’n ymwybodol iawn, os gallwch atal y trosedd rhag digwydd yn y lle cyntaf, y gallwch ddiddymu holl ddioddefaint y dioddefwr. Mae’n ymwneud â helpu pobl.”
Roedd Tobi Smith o Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrth law er mwyn tynnu sylw aelodau’r cyhoedd at bwysigrwydd bod yn ymwybodol o gynnyrch ffug.
Meddai: “Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth am gynnyrch ffug, sy’n fater enfawr yn yr ardal.
“Mae pawb yn cadw llygad allan am fargen ond gallai’r crys pêl-droed Lerpwl neu Manchester United yna sy’n ymddangos yn fargen fod yn un ffug ac yn hynod beryglus gan ei fod wedi’i wneud allan o ddefnydd sy’n hynod fflamadwy.”
“Mae gennym hefyd berygl mawr i iechyd o ganlyniad i sigaréts ffug. Does dim ots gan y bobl sy’n gwerthu’r rhain beth sydd ynddynt a chanlyniad hyn yw bod pobl yn anadlu cemegau sy’n hynod beryglus.
Ychwanegodd: “Rydym wedi profi persawr ffug ac wedi darganfod eu bod yn cynnwys troeth dynol. Mae’n erchyll ac yn broblem fawr ledled Gogledd Cymru.
“Fe ddylem hefyd gofio bod yr arian a wneir gan gynnyrch ffug yn helpu i ariannu troseddau trefnedig ledled yr ardal.”
Roedd Louise Roche, sy’n gwirfoddoli yng nghanolfan galw heibio Gwarchod y Gymdogaeth yn Stryd y Farchnad wrth law er mwyn gwirio gliniaduron a chyfrifiaduron am firysau sbïo a Trojan ac i roi cyngor am ddiogelwch ar-lein.
Meddai: “Mae nifer o bobl yn gwbl anymwybodol o ddiogelwch ar-lein a bod pobl yn ceisio cael mynediad i’w cyfrifiaduron, gliniaduron a theclynnau arall er mwyn dwyn gwybodaeth.
“Rydw i wedi dod o hyd i bob mathau o firysau sbïo ar declynnau y mae pobl wedi eu rhoi i mi edrych arnynt. Mae’n ymwneud â chymryd mesurau syml er mwyn atal twyllwyr rhag cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol.”