Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Ionawr 2016

Mesur Cymru: Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio lawr unrhyw Fesur sy'n symud pwerau o Gymru

Mae AS Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi cyhuddo y Prif Weinidog o drin Cymru fel 'cenedl eilradd' ac yn rhybuddio o 'argyfwng cyfansoddiadol' oni bai bod newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i'r Mesur Drafft Cymru.

Wrth gwestiynu’r Prif Weinidog heddiw dywedodd Jonathan Edwards AS fod Mesur Drafft Cymru yn cynnwys darpariaethau a fyddai'n gwyrdroi'r rhannau allweddol o setliad 2011, a gafodd ei gymeradwyo mewn refferendwm.

Oni bai y'i diwygiwyd, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn debygol o wrthwynebu y Mesur yn ystod y broses Cydsyniad Deddfwriaethol gan sbarduno argyfwng cyfansoddiadol.

Dywedodd Jonathan Edwards: “Mae'r Mesur, yn ei ffurf bresennol, yn tynnu n’ôl pwerau o Gymru, gan danseilio setliad 2011 a gafodd ei gymeradwyo gan fwyafrif llethol o bobl Cymru mewn refferendwm.

"Mae'r Mesur drafft hefyd yn tanseilio argymhellion Comisiwn Silk gan nodi Gymru fel cenedl ail dosbarth.

"Ni all Plaid Cymru gefnogi Mesur sy'n rhoi rhwydd hynt i Lywodraeth y DU osod feto ar  faterion Cymreig; mae hyn yn diraddio ysbryd refferendwm 2011 pan bleidleisiodd pobl Cymru o blaid trosglwyddo pwerau deddfu sylfaenol o San Steffan i Gaerdydd.

"Ni fydd Plaid Cymru yn derbyn unrhyw ymgais i drin Cymru fel cenedl ail-ddosbarth.

"Dylai’r Mesur Llywodraeth Cymru nesaf symud Cymru tuag at yr un pwerau sydd ar gael i'r Alban a Gogledd Iwerddon ac ni ddylai gynnwys darpariaethau sy'n caniatáu i San Steffan wahardd penderfyniadau gan Weinidogion Cymru.

"Nid yw'r cymalau feto a chaniatâd yn gymwys yn achos yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly pam fod y Prif Weinidog yn trin Cymru fel cenedl ail ddosbarth?

"Oni bai bod newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio i lawr y Mesur yn San Steffan ac yn bwysicach, yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y broses Cydsyniad Deddfwriaethol lle gallai pleidleisiau Plaid sicrhau mwyafrif yn erbyn y Mesur gan sbarduno argyfwng cyfansoddiadol.” 

Rhannu |