Mwy o Newyddion
Cymdeithas yr Iaith - Angen cyllideb frys sy'n buddsoddi'n well yn y Gymraeg
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i bleidiau'r Cynulliad ymrwymo i gyflwyno cyllideb frys wedi'r etholiad i gynyddu'r buddsoddiad ar brosiectau i hyrwyddo'r Gymraeg i 1% o'r gyllideb, yn dilyn sylwadau gan y Prif Weinidog gerbron pwyllgor y Cynulliad am y gyllideb drafft heddiw.
Yn nogfen weledigaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth 2016 Ymlaen", mae'r mudiad yn galw bod anelu at fuddsoddi'r un canran o'r gyllideb ar hyrwyddo'r Gymraeg a warir ar yr iaith Fasgeg yng ngwlad y Basg.
Ar hyn o bryd, 0.16% yn unig o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru fyddai'n mynd at brosiectau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg.
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn codi flwyddyn nesaf, ond eto, maen nhw'n cynllunio gwneud toriad sylweddol i'r Gymraeg.
"O ystyried cyflwr y Gymraeg, nid oes modd cyfiawnhau hynny.
"'Dyn ni'n galw ar i'r holl bleidiau ymrwymo yn eu maniffestos i gyflwyno cyllideb frys a fydd yn cynyddu'r buddsoddiad yn y Gymraeg, ynghyd â tharged hir dymor i'w gynyddu fel bod modd cynllunio polisïau iaith yn iawn dros amser.
"Mae'r gwariant sy'n cael eu cynnig yn y gyllideb drafft yn bitw.
"Yn wir, mae'r gyllideb ddrafft yn ffafrio'r Saesneg i raddau helaeth, ac yn cynrychioli buddsoddiad yn yr iaith honno.
"Mae Gwlad y Basg yn gwario sawl gwaith mwy ar eu hiaith nhw, sy'n rhan o'r rheswm bod cynnydd yn ei defnydd.
"Mae angen i bawb gydweithio er mwyn gwrthwynebu llymder sydd mor niweidiol i'r Gymraeg ac i'n cymunedau'n fwy cyffredinol."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am ddau brif bolisi yn ymwneud â'r gyllideb: rhaglen i gynyddu gwariant ar y Gymraeg i 1% o'r gyllideb, gyda disgwyliad hefyd i’r cyrff mae’n ei ariannu i glustnodi 1% ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg; ac i Gomisiynydd y Gymraeg gynnal asesiad annibynnol o effaith gwariant prif-ffrwd Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg, a gweithredu ei argymhellion er mwyn sicrhau bod gwariant presennol ar draws holl adrannau’r Llywodraeth a’r cyrff mae’n ei noddi yn llesol i'r Gymraeg.