Mwy o Newyddion
Medal y Pegynau i Athro Aberystwyth
DYFARNWYD Medal y Pegynau i’r Athro Bryn Hubbard, Cyfarwyddwr Canolfan Rewlifeg Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r wobr yn cydnabod gwaith yr Athro Hubbard fel “ysgolhaig Polar mewn rhewlifeg, daeareg rewlifol a strwythur a mudiant masau iâ”.
Mae’r Athro Hubbard yn ymuno â rhestr enwog o dderbynwyr sy’n cynnwys Capten Robert F Scott, Syr Ernest Shackleton, a aeth gyda Scott yn ystod taith 1902-4, a Syr Edmund Hillary a Syr Vivian Fuchs a arweiniodd daith y Gymanwlad ar Draws yr Antarctig yn 1957-8.
Sefydlwyd Medal y Pegynau ym mis Medi 1904 er mwyn cydnabod y rhai aeth ar daith lwyddiannus gyntaf Capten Robert F Scott i’r Antarctig.
Yn y degawdau diweddar mae’r Fedal wedi’i chyflwyno yn bennaf i wyddonwyr sydd wedi bod yn gweithio am gyfnodau hir o amser ac o dan amodau garw er mwyn hyrwyddo gwybodaeth am y rhanbarthau pegynol.
Mae’r Athro Hubbard yn un o dri rhewlifwr sydd â chysylltiadau â Phrifysgol Aberystwyth ac sydd wedi derbyn Medal y Pegynau: yr Athro Michael Hambrey, cyn-gyfarwyddwr y Ganolfan Rewlifeg, a’r Athro Julian Dowdeswell, gyn-bennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
“Braint o’r mwyaf yw derbyn Medal y Pegynau, sy’n cydnabod yr heriau a phwysigrwydd cynnal ymchwil gwyddonol yn rhanbarthau pegynol ein planed,” meddai’r Athro Hubbard, “ac rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth cydweithwyr yn y Ganolfan Rhewlifeg ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl.”
Cafodd Bryn Hubbard eni a’i fagu yn lleol, gan fynychu Ysgol Gynradd Y Borth ac Ysgol Gyfun Penglais cyn mynd i Goleg Crist yn Aberhonddu.
Datblygodd ei ddiddordeb mewn rhewlifeg yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen, lle y dyfarnwyd iddo radd dosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth. Yna aeth ymlaen i Brifysgol Caergrawnt lle cwblhaodd PhD mewn symudiad rhewlif.
Wedi dwy flynedd arall yn astudio hydroleg rhewlif Alpaidd yng Nghaergrawnt, ymunodd yr Athro Hubbard â Phrifysgol Aberystwyth yn 1994 fel darlithydd yn y Ganolfan Rewlifeg a oedd newydd ei sefydlu bryd hynny.
Cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Rewlifeg yn 2010 a dyfarnwyd cadair athro iddo yn 2011. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Ymchwil ar gyfer yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg.
Yr Athro Hubbard yw Prif Olygydd y cyfnodolyn Journal of Geophysical Research ac mae’n aelod ‘craidd’ o Goleg Adolygu Cymheiriaid Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.